Â鶹ԼÅÄ

Covid: Cofnodi 21 marwolaeth a 7,915 achos newydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Rhywun yn gwneud prawf llif unfforddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 21 marwolaeth yn rhagor yn gysylltiedig â Covid a 7,915 o achosion newydd yn eu ffigyrau diweddaraf.

Mae'r ffigyrau hyd at 09:00 fore Iau, 6 Ionawr.

Mae cyfanswm y rhai sydd wedi marw gyda Covid, yn ôl dull ICC o fesur, bellach yn 6,626 ac mae cyfanswm yr achosion yn 706,873.

Mae'r gyfradd saith diwrnod fesul 100,000 o bobl wedi codi i 2,324.6 ar gyfer Cymru gyfan.

Mae'r gyfradd ar ei waethaf ym Mlaenau Gwent (3,084.7), Rhondda Cynon Taf (2,981.0) a Merthyr Tudful (2,932.4).

Dim ond un sir sydd â chyfradd is na 1,500, sef Sir Fynwy ar 1,451.5.

O ran brechu, mae 2,494,287 o bobl wedi cael o leiaf un brechlyn, 2,314,745 wedi cael o leiaf dau a 1,695,590 wedi derbyn brechlyn atgyfnerthu.