'Blwyddyn grêt' ar ôl cael trawsblaniad aren

Disgrifiad o'r llun, Mae Mali wedi byw gydag ond un aren ers ei bod hi'n blentyn ifanc

"Mae 'na ran ohona fo dal heb sincio mewn - mae'n lot i gymryd fewn, y ffaith bod hynny wedi digwydd."

Flwyddyn yn ôl roedd Mali Elwy adref yn Llansannan, Sir Conwy yn adfer, ar ôl derbyn y trawsblaniad aren y bu hi'n aros amdano ers blynyddoedd.

Gan ei brawd Morgan y cafodd hi yr aren - ac ers hynny mae wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus i'r ddau ohonyn nhw.

"Dwi jyst wedi dechrau teimlo'n well ac yn well dros y flwyddyn i gyd," meddai Mali, wrth siarad ar raglen Dros Ginio am ei phrofiad.

"'Chydig o setbacks, ambell waith yn mynd i'r ysbyty efo infections a 'ballu - ond 'di o'm byd i gymharu efo sut o'n i'n teimlo cynt, mae jyst 'di bod yn flwyddyn grêt."

'Ofnadwy o lwcus'

Mae Mali wedi byw gydag ond un aren ers ei bod hi'n blentyn ifanc, ar ôl gorfod tynnu un oherwydd tiwmor oedd wedi datblygu.

Ond o ganlyniad i hynny cafodd hynny effaith ar ei aren arall, ac wrth i hwnnw ddirywio hefyd dros y blynyddoedd roedd angen trawsblaniad ar Mali erbyn ei bod hi'n 16 oed.

Wedi i'w mam geisio yn aflwyddiannus gyntaf i weld a oedd hi'n gymwys i roi aren, fe wnaeth Morgan gynnig - ac roedd yn llwyddiannus.

Ond bu hynny'n broses o flynyddoedd, gyda llawdriniaethau'n cael eu gohirio a'r pandemig yn cael effaith hefyd.

Disgrifiad o'r llun, Mae ei theulu wedi bod yn agos iawn iddi, meddai Mali - yn enwedig ei mam Sioned, sydd wedi bod yn "graig"

"Oedd fy aren yn dechrau cau lawr yn iawn erbyn hynny, oedd o'n mynd rhwng 5-7% [o'i gapasiti] ac o'n i'n teimlo'n wael ofnadwy," meddai Mali.

"Be' fysa fo'n golygu i fi fysa dialysis bedair gwaith y diwrnod, bob dydd, ac unwaith 'dach chi'n dechrau, does na'm diwrnod o frêc, mae'n gorfod digwydd.

"A dwi'n meddwl i rywun ifanc, mae'r realiti yna'n reit frawychus - ond dwi'n un o'r rhai lwcus, nes i'm gorfod.

"Mae 'na gymaint o bobl yn gorfod mynd ar dialysis a dioddef hynny, a rhai pobl heb match na dim byd felly, a gorfod aros tair, bedair mlynedd i gael aren gan rywun oddi ar y list - pethau fel 'na.

"Dwi'n cyfri' fy hun yn ofnadwy, ofnadwy o lwcus."

Teulu agos

O'r diwedd digwyddodd y trawsblaniad ychydig cyn y Nadolig llynedd, dair blynedd ers i'r meddygon ddweud bod angen un arni.

Roedd adfer adref dros yr Å´yl yn deimlad "rhyfedd", meddai, ond roedd gallu bod o gwmpas ei theulu wrth wella yn "arbennig".

Bu'n ynysu'n llym ar ôl y driniaeth, gan osgoi gweld pobl nes fis Ebrill ond yn mynd am dro fesul tipyn i adfer ei chryfder.

"Ym mis Mawrth nes i ddringo fyny Moel Siabod - oedd hynna fatha rhyw garreg filltir arall eto," meddai.

Ffynhonnell y llun, Mali Elwy

Disgrifiad o'r llun, Mali a'i brawd Morgan - mae'r ddau wedi cael blwyddyn i'w gofio eleni

Ddeufis yn ddiweddarach roedd gan y teulu clos reswm arall i ddathlu, wrth i Morgan ddangos ei ddoniau cerddorol a chipio tlws Cân i Gymru 2021 gyda 'Bach o Hwnne'.

"O'n i in awe, methu credu'r peth!" meddai Mali. "Allai'm deutha chi faint o ddagrau oedd yn tÅ· ni noson yna.

"Dwi'n edrych arno fo weithiau, yn enwedig pan mae'n bod yn wirion, neu'n canu neu rywbeth, a meddwl 'waw, mae'r boi 'ma wedi rhoi organ i fi'.

"Mae 'na ran ohona fo dal heb sincio mewn, mae'n lot i gymryd fewn, y ffaith bod hynny wedi digwydd. 'Di diolch byth yn mynd i fod yn ddigon, rili."

Edrych i'r dyfodol

Ar hyn o bryd mae Mali hanner ffordd drwy ei hail flwyddyn yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor, ac mae actio, perfformio a chanu ymhlith ei diddordebau.

Ond dydy hi ddim am wneud cynlluniau cadarn am ei dyfodol ar ôl graddio eto - ac mae'n gwybod hefyd y bydd trawsblaniad aren arall hefyd yn gorfod digwydd eto ryw ddydd.

"Mi fydd 'na ryw ddiwrnod, 20 mlynedd, 30 mlynedd o rŵan... ond mae hynna'n bell yn y dyfodol. Mae'r aren yma'n 'neud yn grêt ar y funud," meddai.

"Mae pethau'n edrych i fyny a dwi jyst yn teimlo'n lwcus ar ddiwedd y flwyddyn hon bod 'na flwyddyn 'di mynd heibio a bo' fi dal yn iach."