Y ceiswyr lloches yng Nghasnewydd sy'n dysgu Cymraeg

Disgrifiad o'r fideo, Xiao Xia: Un o'r ceiswyr lloches o bedwar ban byd sy'n dysgu Cymraeg
  • Awdur, Aled Huw
  • Swydd, Gohebydd Â鶹ԼÅÄ Cymru

O Eritrea yn wreiddiol, daeth Tsege i Brydain yng nghefn lori, gan ddianc rhag yr heddlu ac arwain at siwrne hir ar draws y cyfandir.

Cymru yw ei chartref nawr, meddai, ar ôl bod yma am saith mlynedd.

"Mae fy mhlant yn dysgu'r Gymraeg yn yr ysgol," meddai.

"Fel mam os nad ydw i'n siarad Cymraeg dw i ddim yn gallu eu helpu nhw. Fe benderfynais i ar y pwynt yna bod rhaid i fi ddysgu'r Gymraeg."

Heriau ynganu

Pam mae menywod fel Tsege yn mynd ati i ddysgu'r Gymraeg felly?

Nid dim ond chwilfrydedd mae'n ymddangos, ond am bod yr iaith o help i wreiddio yma.

Mae Xiao Xia, Tsege ac Ayda yn ceisio am loches ym Mhrydain ac wedi cael llety gan y Swyddfa Gartref yng Nghasnewydd.

Yno mae'r dair yn dysgu Cymraeg mewn gwersi sy'n cael eu darparu am ddim yn sgil partneriaeth rhwng y Groes Goch a Dysgu Cymraeg Gwent ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Fe ddaeth Ayda i Gymru o Sudan. Gyda'i phlant yn dysgu'r Gymraeg yn yr ysgol, fe ymunodd â'r gwersi yn bennaf er mwyn gallu ei cefnogi nhw.

Disgrifiad o'r llun, Mae Ayda yn un o'r menywod sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y gwersi

Unwaith y byddan nhw'n hÅ·n, mae Ayda'n gobeithio y bydd y Gymraeg yn hwb iddi ddod o hyd i waith yma.

Mae'r dysgwyr yn aml yn siarad o leia' dair iaith yn barod, ond mae nhw'n cydnabod bod y Gymraeg a'r ynganu yn enwedig yn heriol.

Yn ôl Ayda mae'r ffaith iddi ddysgu ychydig o Ffrangeg yn Sudan wedi helpu gyda hyn.

Daw Xiao Xia o China yn wreiddiol. Dywedodd bod ynganu a sŵn y Gymraeg yn gallu bod yn anodd, ond ei bod hi'n mwynhau'r gwersi.

"Rwy am ddysgu Cymraeg am mai dyma iaith gynta' Cymru," meddai.

Sgiliau ychwanegol

Cwrs i ddechreuwyr yw'r un yng Nghasnewydd. Blas ar y Gymraeg sydd wedi ei gynllunio yn arbennig ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Yn wreiddiol roedd y cwrs yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb ond oherwydd cyfyngiadau'r pandemig mae'r rhan fwyaf o'r gwersi yn cael eu cynnal ar-lein.

Fe amrywiodd y niferoedd yn y dosbarthiadau rhwng chwech a 25, a Jacqui Spiller yw eu hathrawes.

Disgrifiad o'r llun, Helpu ei phlant gyda'u Cymraeg oedd un o resymau Tsege dros ddysgu

"Ry ni'n treulio dipyn o amser yn gwneud ryw gampfa i'r geg, gyda rowlio'r 'r' ac mae nhw'n mynd 'Wwww!' achos mae'n od iddyn nhw," meddai.

"Mae'n llawer o hwyl a dwi'n dwlu arnyn nhw.

"Mae'n siawns iddyn nhw ddysgu sgiliau ychwanegol, mae nhw'n awyddus iawn i ffitio mewn yn y wlad yma ac i gael gwaith yn y dyfodol, ac mae nhw'n gw'bod llawer mwy nawr am bethau Cymru."

Fe ddaeth Cydlynydd Cefnogi Ffoaduriaid a Mudo y Groes Goch yng Nghasnewydd, Theresa Mgadzah Jones, i Brydain o Zimbabwe yn wreiddiol.

Yn 12 oed penderfynodd ei theulu ddianc rhag y rhyfel yno. Mae Theresa hefyd wedi dysgu'r Gymraeg a'i phlant wedi mynd i ysgolion Cymraeg.

Disgrifiad o'r llun, Mae Theresa Mgadzah Jones yn cydlynu'r gwersi i ffoaduriaid

"Maen nhw am ddysgu Cymraeg am sawl rheswm, achos mae eu plant yn ddod adref [o'r ysgol] gyda geiriau Cymraeg ond mae nhw hefyd am helpu eu plant nhw efo gwaith cartref, ac mae'r Gymraeg yn helpu i gael gwaith hefyd," esboniodd.

"Pan fydd y Swyddfa Gartref yn lletya pobl yma, ychydig iawn o wybodaeth sy'n cael ei roi am Gymru fel gwlad wahanol. Mae pobl yn meddwl eu bod yn Lloegr a 'dyn nhw ddim yn ymwybodol bod diwylliant a iaith wahanol yma."

Cyrsiau newydd

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg wedi creu cwrs 'blasu' i'w ddefnyddio pan fydd ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cyrraedd Cymru gyntaf.

Mae'n gyflwyniad i'r diwylliant a rhai geiriau a brawddegau y gellir eu defnyddio o ddydd i ddydd. Fe gafodd ceiswyr lloches yn Wrecsam, Aberystwyth ac Abertawe wersi tebyg.

"Mae ceiswyr lloches yn aml yn cael eu dosbarthu o gwmpas Cymru, felly weithiau mae'n anodd cynnig gwersi hir iddyn nhw, ond ein nod ni yw cynnig gwersi addas iddyn nhw," meddai prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, Efa Gruffydd Jones.

"Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru o ble bynnag mae nhw wedi bod i ble mae nhw'n byw felly yn bendant sy ni'n cynnig cymuned groesawgar i unrhyw un sydd am ddysgu'r Gymraeg."

Ychwanegodd: "Mae gennym ystod o gyrsiau Cymraeg eraill ar gael, gan gynnwys cyrsiau ar gyfer rhieni, gwersi yn y gweithle, dosbarthiadau ar-lein a chyrsiau astudio annibynnol ar-lein.

"Bydd cyrsiau newydd yn cychwyn ym mis Ionawr ac rydym yn edrych ymlaen i groesawu mwy o ddysgwyr i'n cymuned gefnogol a chyfeillgar."