Rhai plant 5-11 oed i gael brechiadau Covid

Fe fydd rhai plant rhwng 5-11 oed yn cael eu brechu'n erbyn Covid-19, mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn dilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar frechu ac imiwneiddio (JCVI) - sydd wedi dweud y dylai plant ifanc sydd mewn grŵp "risg", neu'n rhannu cartref gyda rhywun bregus, gael eu brechu.

Mae'r JCVI hefyd wedi argymell rhoi brechlynnau atgyfnerthu i fwy o blant - gan gynnwys pob plentyn 16 ac 17 oed.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd mai ei bwriad oedd "dilyn y dystiolaeth glinigol a gwyddonol... fel yr ydym wedi ei wneud ers dechrau'r pandemig".

Mae disgwyl i'r brechiadau ychwanegol ddechrau yn y flwyddyn newydd.

Ym mis Medi daeth cadarnhad y byddai plant 12-15 oed yn cael dau ddos o frechlyn Covid.

Beth yw'r newidiadau?

Yn dilyn newid yng nghyngor y JCVI, fe fydd plant 5-11 oed sydd mewn grŵp risg, yn fregus, neu'n rhannu cartref gyda rhywun bregus, yn cael cynnig dau ddos o frechlyn Pfizer.

Bydd wyth wythnos o fwlch rhwng y ddau bigiad.

Ni fydd plant ifanc sydd ddim yn y grwpiau risg yn cael cynnig pigiad.

Mae'r JCVI hefyd wedi newid y cyngor ar frechiadau atgyfnerthu.

Fe fydd y canlynol yn cael cynnig o ddos ychwanegol o frechiad:

  • Pob plentyn 16 ac 17 oed;
  • Plant 12-15 oed sydd mewn grŵp risg neu'n byw gyda rhywun bregus;
  • Plant 12-17 oed sy'n "ddifrifol imiwnoataliedig" ac eisoes wedi derbyn y trydydd dos sylfaenol.

Yn ei datganiad, dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan bod y JCVI wedi cydbwyso'r manteision â risgiau posib o roi brechlynnau i blant ifanc, a'u bod o blaid y newid.

Dywedodd ei bod wedi derbyn y cyngor: "Dilyn y dystiolaeth glinigol a gwyddonol yw ein bwriad, fel yr ydym wedi ei wneud ers dechrau'r pandemig.

"Bydd GIG Cymru yn nodi plant a phobl ifanc 5 i 11 oed cymwys yn y grwpiau "risg" ac yn dechrau cynnig apwyntiadau yn y flwyddyn newydd.

"Bydd plant o dan 18 oed sy'n gymwys i gael dos atgyfnerthu yn cael apwyntiad pan fyddant yn gymwys."