'Ry'n ni'n gwneud popeth posib i gyflymu'r rhaglen frechu'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud "popeth" y gallai i gyflymu'r rhaglen frechu, meddai'r Prif Weinidog

Mae Prif Weinidog Cymru wedi pwysleisio pwysigrwydd cael brechlyn atgyfnerthu o'r newydd yn sgil bygythiad amrywiolyn Omicron.

Dywedodd Mark Drakeford fod Llywodraeth Cymru yn gwneud "popeth o fewn ein gallu i gyflymu ein rhaglen frechu".

Ond ni wnaeth gyhoeddi newid i'r targed o gynnig pigiad atgyfnerthu i bob oedolyn yng Nghymru erbyn diwedd mis Ionawr, er i Brif Weinidog y DU, Boris Johnson gyhoeddi y byddai rhaglen frechu Lloegr yn cael ei chyflymu.

Ychwanegodd Mr Drakeford y bydd rhaglen frechu Cymru yn parhau i flaenoriaethu "pobl hÅ·n a'r rhai sydd fwyaf mewn perygl".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mewn datganiad wedi i Mr Johnson annerch y DU nos Sul, dywedodd Mr Drakeford: "Rydyn ni'n cynyddu nifer y clinigau a'u horiau agor - rydyn ni wedi gofyn i'r holl staff sydd ar gael ymuno â thimau brechu i gefnogi'r ymdrech genedlaethol hon.

"Mae hwn yn ffurf sy'n symud yn gyflym ar y coronafeirws, sydd â'r potensial i achosi ton fawr o heintiau yng Nghymru.

"Gallai hyn arwain at nifer fawr o bobl angen triniaeth ysbyty ar adeg pan mae ein GIG o dan bwysau sylweddol.

"Gwnewch yn siŵr bod cael eich brechlyn atgyfnerthu yn flaenoriaeth."

Nos Sul, dywedodd prif swyddogion meddygol Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon eu bod yn argymell codi y lefel rhybudd o lefel tri i bedwar, sy'n arwydd bod Covid yn lledaenu'n gyflym.

Mewn datganiad, dywedon nhw fod tystiolaeth gynnar yn dangos bod Omicron yn lledaenu llawer yn gyflymach nag amrywiolyn Delta.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i wneud prawf llif unffordd cyn cwrdd ag eraill neu fynd i lefydd prysur

Fe wnaethon nhw ychwanegu bod brechlynnau Covid yn cynnig llai o warchodaeth rhag salwch yn achos Omicron.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfyngiadau Covid ychwanegol yn sgil Omicron.

Beth yw sefyllfa Omicron yng Nghymru?

Mae 15 achos o Omicron wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru hyd yma.

Mae tri ohonynt yn ymwneud â theithio rhyngwladol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Credir bod amrywiolyn Omicron Covid-19 yn fwy trosglwyddadwy na Delta

Fe wnaethon nhw hefyd gryfhau'r cyngor ar wisgo gorchuddion wyneb, gan ddweud y dylai pobl wisgo mygydau mewn tafarndai pan nad ydynt yn yfed.

Ar hyn o bryd, mae'r Llywodraeth yn gofyn i bobl "ystyried yn ofalus" cyn cwrdd ag eraill, ac i gymryd prawf llif unffordd cyn cymdeithasu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Rhaid "ystyried yn ofalus" cyn cwrdd ag eraill, meddai Gweinidog iechyd Cymru

Dywedodd y Gweinidog Iechyd ddydd Sul ei fod yn bwysig i bobl ddeall difrifoldeb bygythiad Omicron.

"Os bydd 100 o bobl mewn ystafell ac un ohonyn nhw gyda'r amrywiolyn Omicron, gall 70 ohonyn nhw ddal yr amrywiolyn yma," meddai.

Nid yw'r Llywodraeth yn gofyn i bobl canslo eu partïon Nadolig.

Ond ddydd Sadwrn fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro annog pobl yn gryf i beidio mynd i bartïon yn sgil "pwysau cynyddol" ar y GIG.