Lauren Price yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Â鶹ԼÅÄ Cymru

Y bocsiwr Lauren Price yw enillydd gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Â鶹ԼÅÄ Cymru.

Fe wnaeth Price, 27, ennill y teitl pwysau canol Olympaidd ym mis Awst, gan guro Li Qian o China yn Tokyo.

Roedd Price, sydd o Ystrad Mynach, yn well na'i gwrthwynebydd drwy gydol yr ornest yng Ngemau Olympaidd Tokyo, wrth i bob un o'r beirniaid ddyfarnu ei bod yn fuddugol ar bwyntiau.

Roedd y fuddugoliaeth yn golygu mai Price yw'r Gymraes gyntaf i ennill medal aur Olympaidd am focsio.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Price yn dathlu ei medal aur ar ôl curo Li Qian in Tokyo

Cafodd Price ei dewis gan banel o arbenigwyr oedd wedi ei gadeirio gan gyfarwyddwr perfformiad Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker.

Roedd y panel yn cynnwys y Farwnes Tanni Grey-Thompson, prif weithredwr Criced Cymru, Leshia Hawkins, cyn-chwaraewr pêl-droed a phêl-rwyd dros Gymru, Nia Jones, ac Owen Lewis o Chwaraeon Cymru.

Roedd "trafodaethau cadarn" ymysg y panel, meddai Walker, ond cafodd Price ei dewis oherwydd "ei llwyddiant yn 2021, effaith hynny ar y wlad... a'r brwydrau personol mae'r person yma wedi bod drwyddyn nhw".

Er ei llwyddiant, mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai chwerw-felys i Price.

Bu farw ei thad-cu, oedd ynghyd â'i mam-gu wedi magu'r bocsiwr, yn Nhachwedd 2020, ac fe ddywedodd bod y fedal aur er cof amdano.

Ffynhonnell y llun, FAW

Disgrifiad o'r llun, Penderfynodd Price droi ei chefn ar bêl-droed er mwyn canolbwyntio ar focsio

Cafodd Price ei magu yn Ystrad Mynach, Sir Caerffili, gan fynychu'r ysgol ym Margoed.

Wedi iddi ddod i'r amlwg bod ganddi dalent o oed ifanc, dechreuodd ymarfer a chystadlu mewn pêl-rwyd, cic-focsio a phêl-droed.

Pan oedd hi'n iau, fe wnaeth hi gynrychioli Cymru mewn pêl-rwyd a taekwondo, ac mae hi wedi ennill teitlau Prydeinig ac Ewropeaidd mewn cic-focsio.

Chwaraeodd dros 50 o weithiau dros dimau ieuenctid, ac yna tîm cyntaf pêl-droed Cymru, cyn penderfynu canolbwyntio ar focsio.

Yn 17 oed fe enillodd ei medalau cyntaf ym mhencampwriaethau Ewrop yn 2011.

Price oedd y fenyw gyntaf o Gymru i ennill medal yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2014, gan ennill efydd, cyn mynd ymlaen i ennill yr aur pum mlynedd yn ddiweddarach yn 2019.

Yn dilyn ei buddugoliaeth Olympaidd, y cwestiwn mawr iddi nawr ydy a fydd yn parhau fel amatur ac amddiffyn ei theitl, neu'n troi'n broffesiynol ac ymladd am arian.