Â鶹ԼÅÄ

Omicron: Cadarnhau tri achos pellach yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Prawf positifFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae tri achos pellach o amrywiolyn Omicron o'r coronafeirws wedi eu cadarnhau yng Nghymru.

Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod yr achosion yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

"Mae dau o'r achosion newydd yn gysylltiedig gyda theithio neu gyswllt agos," meddai Dr Meng Khaw o ICC.

Ychwanegodd bod tarddiad y trydydd achos yn parhau dan ymchwiliad.

Daeth yr achos cyntaf i'r amlwg yng Nghymru ddydd Gwener, ac ers hynny, mae rhybudd ei fod yn "debygol" fod yr amrywiolyn newydd o Covid-19 yn lledaenu'n gyflymach nag amrywiolion eraill.

Ond mae dal angen casglu mwy o dystiolaeth ar amrywiolyn Omicron, meddai dirprwy gyfarwyddwr meddygol dros dro Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Disgrifiad,

Omicron: Tystiolaeth gynnar bod brechlynnau'n 'effeithiol', medd Dr Eleri Davies

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Llun, dywedodd Dr Eleri Davies nad oedden nhw'n sicr eto a yw Omicron yn achosi salwch mwy difrifol, na pha mor effeithiol yw brechlynnau Covid-19 yn ei erbyn.

Ond dywedodd Dr Davies fod yna dystiolaeth o rannau eraill o'r DU fod yr amrywiolyn bellach yn lledu yn y gymuned heb gysylltiad â theithio dramor.

'Cwestiynau'n dal i fod'

Mae cwestiynau'n dal i fod am Omicron, dywedodd Dr Davies, ond mae'r dystiolaeth gynnar yn "galonogol" - gan gynnwys ar frechlynnau.

"Ni yn credu bod y brechlynnau yn effeithiol yn sicr i leihau difrifoldeb yr haint," meddai, ac felly eu neges o hyd yw i bobl gael eu brechu, ond bydd angen casglu tystiolaeth bellach.

Y peth "synhwyrol" yw peidio â chwrdd ag eraill os ydych chi'n teimlo'n sâl, meddai Dr Davies.

Pwysleisiodd bod cyfraddau Covid "yn dal i fod yn uchel" yng Nghymru, a bod y feirws yn lledaenu trwy gysylltiad agos a chymdeithasu.

"Fi'n gwybod bod ni mo'yn cwrdd â theulu a ffrindiau oherwydd bod ni falle heb weld nhw ers sbel, ond os y'ch chi ddim yn teimlo'n dda, gwnewch yn siŵr bo chi'n cael prawf a bod chi yn peidio cymdeithasu os chi'n sâl."

Beth ydy'r sefyllfa mewn ysbytai?

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod nifer y cleifion Covid yn ysbytai Cymru'n parhau i ostwng.

Hyd at ddydd Gwener, roedd 369 o gleifion mewn ysbytai gydag achosion Covid wedi cadarnhau.

Dyma'r lefel isaf ers bron i dri mis.

43 o gleifion oedd yn derbyn gofal dwys neu gymorth peiriant anadlu - y nifer isaf ers 10 Hydref.

Ar gyfartaledd yr wythnos diwethaf, cafodd 25 o gleifion eu derbyn i ysbytai oherwydd Covid bob dydd - mae hynny'n llawer is na'r un cyfnod llynedd.

Er hynny, mae'r pwysau cyffredinol ar ysbytai yn uchel, gyda dros 90% o welyau aciwt mewn ysbytai yn llawn - y ffigwr uchaf ers dechrau'r pandemig.