'Rhaid gwrando ar bobl anabl yn y byd creadigol'

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Ciaran Fitzgerald bod yn rhaid i bobl yn y diwydiant celfyddydol a thu hwnt wrando ar bobl anabl
  • Awdur, Aled Huw
  • Swydd, Gohebydd Â鶹ԼÅÄ Cymru

Dramodydd a sgriptiwr yw Ciaran Fitzgerald. O Bort Talbot, mae newydd gwblhau ei gomisiwn teledu cyntaf. Mae hefyd yn byw gyda pharlys yr ymennydd.

"Mae gyda fi cerebal palsy sy'n effeithio fi yn gorfforol, ffordd fi'n cerdded, ffordd fi'n siarad.

"Ond dwi hefyd yn meddwl mod i'n diodde' o fodel cymdeithasol o anabledd - social model of disability - sydd yn datgan bod pobl anabl yn cael eu hanableddu nid gan y cyflwr sydd ganddyn nhw, ond gan rwystrau mae cymdeithas yn rhoi o'u blaenau nhw sydd yn eu rhwystro nhw rhag cymryd rhan mewn pethau bob dydd."

Mae profiad Ciaran yn crynhoi pam bod yna faniffesto'n cael ei lansio gyda'r bwriad o helpu pobl anabl i gyrraedd eu potensial yn y byd creadigol yng Nghymru.

Ar ddiwrnod rhyngwladol pobl anabl mae Anabledd Cymru ac elusen celfyddydau rhyngwladol Cymru'n uno i'w lansio.

Y nod yw galluogi pobl anabl i gymryd rhan lawn yn ein bywydau diwylliannol. Ac mae 'na alw hefyd ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i siartr y Cenhedloedd Unedig dros hawliau pobl anabl.

"Mae cydraddoldeb yn y celfyddydau yn enwedig yn bwysig iawn," meddai Ciaran.

"Ry'n ni wedi gweld pobl yn trio cyfleu'r profiad o fod yn anabl yn y theatr, ar y sgrin - ond y mwyafrif o'r amser dydy pobl anabl ddim yng nghanol y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud, nid yng nghanol y straeon am ein hunain.

"Felly'r gobaith yw y bydd y maniffesto yma yn rhoi stamp lawn i greu ryw fath o newid neu just i ddechrau sgwrs ynglÅ·n ag anabledd a chynrychiolaeth yn y celfyddydau yng Nghymru."

Mae gan y Cenhedloedd Unedig gonfensiwn sy'n diffinio hawliau cyfartal pobl anabl - o gyfreithiau i'r angen i daro'n ôl yn erbyn rhagfarnau ac ystrydebau, ac i waredu rhwystrau.

Mae 'na alw hefyd i wledydd hyrwyddo cyfraniad pobl anabl i fywyd diwylliannol - fel bod cyfleoedd ar gael i ddefnyddio'u potensial creadigol.

Erthygl 30 a 32 o'r confensiwn i fod yn fanwl gywir, sy'n nodi meysydd diwylliant hamdden a chwaraeon ynghyd â chydweithrediad rhyngwladol.

Ac mae 'na alw ar Gymru a'i llywodraeth i ymrwymo i'r confensiwn.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Alice Eklund y byddai maniffesto yn tynnu sylw cymdeithas yn ehangach at y sefyllfa

Cydymaith llenyddol yn Theatr y Sherman yw Alice Eklund ac mae'n gyfarwyddwr llawrydd. Mae Alice hefyd yn diffinio'i hunan fel person anabl, am fod ganddi gyflwr llid y cymalau psoriatig, math difrifol o wynegon.

"Weithiau fi'n gorfod cymryd diwrnodau off," meddai. "Fi'n methu gweithio, fi'n methu ffeindio'r egni i weithio ac fi'n credu bod hi'n anodd weithiau i gael pobl i ddeall hwnna yn enwedig pan ti'n byw fel rhywun sydd ddim yn edrych fel bod unrhyw beth yn bod hefyd."

Byddai maniffesto, meddai Alice, yn tynnu sylw cymdeithas yn ehangach.

"Mae lot o gwmnïoedd wedi rhoi cyfleon mas dros y ddwy flynedd ddiwetha' lle mae'n grêt, ond mae angen rhoi'r accessibility tu ôl i hwnna neu bydd pobl dal ddim yn gallu llwyddo a ma' nhw'n teimlo bod e just yn ymarfer tick box a dyw hwnna ddim yn ddigon da.

"Fi'n credu bydde fe'n rhoi'r wybodaeth mas yna i bawb, mae'n 'neud e deimlo fel rhywbeth normal yn hytrach na gorfod gofyn."

Sicrhau nad yw pobl anabl 'yn cael eu gadael mas'

Dywedodd Owain Gwilym ar ran Celfyddydau Anabledd Cymru bod y maniffesto'n hanfodol wrth i'r cyfyngiadau ar gymdeithas lacio ar ôl y pandemig.

"Mae 68% o farwolaethau Covid yng Nghymru wedi bod ymhlith pobl anabl", meddai.

"A phan bod pethe yn agor lan eto ry'n ni fel sefydliad eisiau sicrhau bod pobl anabl ddim yn cael eu gadael mas wrth i fywyd symud yn ei flaen."

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae ganddom ni ymrwymiad clir i hyrwyddo ac amddiffyn hawliau dynol yng Nghymru ac mae'n rhaglen ddeddfwriaethol ddiweddar ni'n ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn ein cynlluniau ar gyfer y tymor hwn."

Ciaran Fitzgerald sy'n crynhoi teimladau pobl anabl: "Mae diffyg adnabyddiaeth yn broblem ac ma' pobl yn ofni hefyd dweud y peth anghywir - gwneud y peth anghywir.

"Felly mae rhaid i bobl yn y diwydiant a thu fas, gwrando i bobl anabl - artistiaid anabl fel fi fy hunan, er mwyn achosi'r newid sydd ei angen yn y sector yn fwy cyffredinol."