Â鶹ԼÅÄ

Ci a laddodd bachgen 10 oed yn frîd cyfreithlon

  • Cyhoeddwyd
Jack Lis
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jack Lis anafiadau i'w ben a'i wddf yn yr ymosodiad a'i laddodd

Mae arbenigwr wedi cadarnhau bod ci a laddodd bachgen 10 oed ger Caerffili yn frîd cyfreithlon, yn ôl Heddlu Gwent.

Bu farw Jack Lis wedi i'r ci ymosod arno mewn tÅ· ar stad Pentwyn, yn ardal Penyrheol y dref, ar 8 Tachwedd.

Dywed y llu bod arbenigwr deddfwriaeth cŵn "wedi cwblhau'r broses adnabod i ganfod brîd y ci a oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad" a dod i'r casgliad mai "ci tarw Americanaidd neu XL yw'r brîd".

"Nid yw'r un o'r rhain ar y rhestr o gŵn sydd wedi eu gwahardd ac felly nid yw yn erbyn y gyfraith i fod yn berchen un yn y wlad hon," meddai'r Prif Uwcharolygydd Mark Hobrough.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru'n deall mai ci o'r enw Beast (chwith) oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad

Cafodd y ci ei ddifa gan swyddogion arbenigol yn dilyn yr ymosodiad.

Cafodd menyw 28 oed o ardal Caerffili ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol ar ôl cael ei harestio ar amheuaeth o fod yn gyfrifol am gi allan o reolaeth a pheryglus, wnaeth achosi anaf a arweiniodd at farwolaeth.

Mae dyn 34 oed o Aberpennar a dyn 19 oed o ardal Caerffili hefyd wedi eu rhyddhau ar ôl mynd o'u gwirfodd at yr heddlu mewn cysylltiad â bod yn berchen ar y ci dan sylw.

Mae'r heddlu'n parhau i ofyn am wybodaeth wrth i'w hymholiadau barhau.

Pynciau cysylltiedig