Â鶹ԼÅÄ

'Byddai Incwm Sylfaenol yn haneru tlodi yng Nghymru'

  • Cyhoeddwyd
arianFfynhonnell y llun, PA

Fe fyddai tlodi yng Nghymru yn haneru petai Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i Incwm Sylfaenol Cyffredinol, yn ôl adroddiad a gafodd ei gomisiynu gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe.

Mae'r astudiaeth, a gwblhawyd gan felin drafod Autonomy, yn nodi y byddai Incwm Sylfaenol yn gostwng tlodi yng Nghymru o 50%. Nodir y byddai tlodi plant yn gostwng 64%. Ar hyn o bryd Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o dlodi yn y DU - 28%.

Mae'r adroddiad yn dweud bod bron i dri chwarter o bobl yng Nghymru yn cefnogi cynllun peilot Incwm Sylfaenol.

Mae Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn talu swm penodol o arian i bawb - ac nid oes unrhyw ystyriaeth i amgylchiadau unigolion.

Dywed Sefydliad Iechyd y Byd mai tlodi sy'n bennaf cyfrifol am iechyd gwael a bod hynny yn rhwystro datblygiadau cymdeithasol ac economaidd.

Yn gynharach eleni fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddweud y byddent yn hoffi treialu peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol yng Nghymru ac maent yn dweud eu bod yn deall cyffro pobl am y cynllun ond ei "bod yn bwysig ei gael yn iawn".

Mae UBI Lab Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a dros 1,000 o ddeisebwyr wedi galw ar y Prif Weinidog i sicrhau fod y peilot yn cynnwys plant, pobl sy'n gweithio, pobl ddi-waith, pensiynwyr a rhai sydd newydd adael gofal.

Ffynhonnell y llun, Sophie Howe
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sophie Howe y gallai cyflwyno cyflog sylfaenol drawsnewid cymdeithas

Ddydd Llun bydd y Comisiynydd Sophie Howe yn galw eto am hynny wrth iddi roi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Deisebau Llywodraeth Cymru.

Mae'r adroddiad yn nodi y gallai'r cynllun peilot gynnwys 2,500 o bobl. Byddai'n costio oddeutu £50m gydag oedolion yn cael eu talu £60 yr wythnos.

Fe wnaeth cynllun peilot yn Y Ffindir ganfod bod pobl yn hapusach ac yn ymddiried mwy mewn eraill. Roedd pobl hefyd i weld yn fwy hyderus ac yn gweithio ychydig bach mwy na'r rhai ar fudd-daliadau diweithdra.

Dywedodd Ms Howe y gallai cyflwyno cyflog sylfaenol drawsnewid cymdeithas a chreu Cymru mwy cyfartal a llewyrchus.

"Bydd treialu cynllun yng Nghymru yn gwella amgylchiadau pob un person yng Nghymru ac yn sicrhau bod llai o bobl yn wynebu dyled - yn y pen draw mae gan hyn y potensial i greu poblogaeth iachach a mwy cyfartal.

"Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau beiddgar i newid systemau nad ydyn nhw'n gweithio ac i atal argyfyngau rhag gwaethygu.

"Dylai canfyddiadau'r adroddiad hwn gyffroi arweinwyr sy'n dweud eu bod eisiau adferiad gwyrdd a chyfiawn sy'n gwneud bywyd yn decach i bawb."

'Yr amser wedi dod'

Dywedodd Will Stronge, cyd-gyfarwyddwr Autonomy: "Mae awydd mawr ymhlith cyhoedd Cymru am roi cynnig ar incwm sylfaenol ac mae'r astudiaeth gynhwysfawr hon yn nodi'r map ffordd ar gyfer cyrraedd yno.

"Mae pandemig COVID-19 yn gofyn am newidiadau radical a beiddgar i gefnogi pobl drwy'r dirwasgiad economaidd gwaethaf mewn cenedlaethau. Wrth i'r economi a'r farchnad lafur ymdrechu i ddod o hyd i'w thraed, mae'n amlwg mai gwarantu sylfaen incwm i bawb yw'r ffordd fwyaf blaengar o sicrhau bywoliaeth.

"Mae'r amser wedi dod am incwm sylfaenol cyffredinol i Gymru."

Yn y gorffennol mae'r Ceidwadwyr wedi mynnu y gallai cynllun o'r fath wneud tlodi yn waeth.