Angladd Jack Lis: 'Dim cyfle i ddweud ta ta'

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth ffrind gorau Jack roi teyrnged iddo yn yr angladd

Daeth torf ynghyd i angladd Jack Lis fore Iau yn Eglwys Sant Martin, Caerffili.

Bu farw y bachgen 10 oed wedi i gi ymosod arno ym Mhentwyn, Penyrheol toc cyn 16:00 ar 8 Tachwedd.

Wrth i'r cynhebrwng gyrraedd, cafodd nifer o falŵns coch eu gollwng ynghanol tref Caerffili.

Ar ddechrau'r gwasanaeth roedd yna gyfle i glywed y gân 'Start Over' gan Flame - un o hoff ganeuon Jack.

Yn ystod yr angladd cafodd geiriau gan ffrind gorau Jack eu darllen sef: "Jack mi es ti yn rhy fuan. Ches i ddim cyfle i ddweud ta ta. Diolch i ti am fod yn ffrind arbennig. Fe fydd wastad lle i ti yn fy nghalon."

Roedd Jack yn hoff iawn o geir ac yn ystod y gwasanaeth fe gyfeiriodd yr offeiriad at lun o gar Toyota Supra ar ei arch.

Cyn y gwasanaeth fe gafodd car DeLorean ei yrru i'r stryd o flaen yr eglwys.

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Jack ar 8 Tachwedd wedi i gi ymosod arno

Ar 12 Tachwedd clywodd cwest fod Jack Lis wedi marw o "anafiadau difrifol i'w ben a'i wddf" ar ôl i gi ymosod arno yng Nghaerffili.

Roedd wedi mynd i chwarae gyda ffrind tu allan i'w gartref ac yna wedi mynd i dÅ·'r ffrind.

Yn gynharach mewn teyrnged dywedodd ei deulu: "Rydym wedi torri'n calonnau. Fydd ein bywydau fyth yr un fath heb Jack.

"Mae gennym cymaint o bethau yr ydym am ddweud am ein bachgen prydferth, ond dydyn nhw ddim yn ddigonol.

"Rydym yn ei garu fwy na all geiriau ddisgrifio. Fe'n gwnaeth ni y rheini a theulu mwyaf balch ar y blaned.

"Bydd yn ein calonnau am byth. Cwsg yn dawel Jack, ein mab perffaith."

Mae dynes 28 a gafodd ei harestio mewn cysylltiad â marwolaeth Jack Liss wedi cael ei rhyddhau ar fechniaeth.

Mae dyn ddyn arall, y naill o Aberpennar a'r llall o Gaerffili, a wirfolodd i siarad â'r heddlu hefyd wedi eu rhyddhau.