Rhybudd meddygon y gogledd am adrannau brys gorlawn

Mae cleifion yn y gogledd yn marw mewn ambiwlansys ac ystafelloedd aros oherwydd bod adrannau brys mor llawn, yn ôl meddygon yr ardal.

Mewn llythyrau at benaethiaid Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, dywedodd doctoriaid fod rhai cleifion yn aros hyd at 24 awr i gael eu hasesu a bod staff yn cael eu sarhau oherwydd yr oedi.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r esiamplau "gwarthus" sy'n cael eu crybwyll, gan alw am ymchwiliad annibynnol i'r bwrdd iechyd.

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd eu bod "dan bwysau sylweddol ar hyn o bryd, sydd wedi arwain at alw digynsail yn ein gwasanaethau brys".

'Niwed amlwg i gleifion, a marwolaethau'

Cafodd y llythyrau eu hysgrifennu ym mis Mehefin eleni a Rhagfyr 2020 gan ddoctoriaid yn gweithio yn adrannau brys ysbytai Gwynedd, Glan Clwyd a Maelor Wrecsam, a dod i sylw'r Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol yn dilyn Cais Rhyddid Gwybodaeth.

Roedd yn cynnwys disgrifiad o ddigwyddiad dros yr haf pan fu farw claf mewn ambiwlans ar ôl aros am ddwy awr am driniaeth y tu allan i'r ysbyty.

Maen nhw'n dweud fod adrannau brys llawn wedi gwaethygu ers Covid, ond fod y broblem wedi bodoli cynt, wedi i'r bwrdd iechyd ddod allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd llynedd.

Ychwanegodd y meddygon fod achosion o'r fath yn brawf fod arweinyddiaeth y bwrdd iechyd "wedi methu â thaclo patrymau ymddygiad sy'n niweidiol i effeithiolrwydd", a bod hynny wedi bod yn digwydd ers "degawdau".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Mae'n hadrannau ni yn aml yn orlawn i'r pwynt ble mae darparu hyd yn oed y pethau mwyaf sylfaenol am feddyginiaeth brys... yn cael eu peryglu," meddai un o'r llythyron.

"Mae hyn yn achosi niwed amlwg i gleifion, a marwolaethau... a does dim tystiolaeth na sicrwydd bod gwersi'n cael eu dysgu."

Yn y llythyr o fis Rhagfyr 2020, maen nhw'n dweud fod y bwrdd iechyd wedi derbyn dros ddwsin o rybuddion gan y crwner i wella diogelwch cyhoeddus o ganlyniad i farwolaethau.

Chwe mis yn ddiweddarach, roedd eu hail lythyr i brif weithredwr Betsi Cadwaladr, Jo Whitehead a'r cadeirydd Mark Polin yn dweud fod cleifion yn aml yn aros 12 awr mewn adrannau brys, a bod cynnydd hefyd yn y nifer oedd yn aros 24 awr.

Problem rhyddhau cleifion

Dywedodd AS Ceidwadol Aberconwy, Janet Finch-Saunders fod y straeon roedd hi wedi eu clywed yn "hollol warthus", gan alw am ymchwiliad annibynnol.

"Dwi wedi cyrraedd pen fy nhennyn gyda'r bwrdd iechyd yma," meddai. "Rydyn ni wedi cael prif weithredwr ar ôl prif weithredwr.

"Mae pob un yn dod i mewn yn addo gwelliannau. Dwi wir yn meddwl mai'r uwch reolwyr sydd ar fai."

Ychwanegodd fod meddygon teulu yn ei hetholaeth hi "wedi cael llond bol" ar gael eu gorweithio "a gorfod llenwi bylchau rhai o fethiannau'r bwrdd iechyd".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Wrth ymateb fe ddywedodd cyfarwyddwr meddygol gweithredol y bwrdd iechyd, Dr Nick Lyons, ei fod yn "deall y pwysau a'r llwyth gwaith sydd ar ein staff".

"Fel gyda'r gwasanaeth iechyd cyfan, mae ein gwasanaethau dan bwysau sylweddol ar hyn o bryd, sy'n arwain at alw digynsail am ein gwasanaethau brys," meddai.

"Mae heriau parhaus i ryddhau llawer o gleifion o'r ysbyty i lety priodol neu wasanaethau gofal, sy'n effeithio ar lif drwy'r system ysbytai cyfan, ac ar ein gallu i ddod â chleifion i mewn a thrwy adrannau brys mewn ffordd amserol."

Ychwanegodd Dr Lyons eu bod nhw hefyd yn gofyn i'r cyhoedd "helpu" drwy sicrhau nad oedden nhw'n dod i adrannau brys am driniaeth mewn achosion llai difrifol ble roedd modd troi at wasanaethau iechyd eraill neu fferyllydd.

'Pwysau digynsail'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein Gwasanaeth Iechyd yn wynebu pwysau digynsail wrth symud tuag at y gaeaf ac mae Covid yn dal gyda ni a chyfyngiadau ar niferoedd yn parhau.

"Fel gyda'r GIG cyfan, mae gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dan bwysau sylweddol ar hyn o bryd.

"Rydym wedi darparu dros £300 miliwn ychwanegol eleni i daclo rhestrau aros, gwella gofal brys a gwasanaethau cymdeithasol.

"Fe fydd yr arian yma yn gymorth tuag at bwysau tymor byr dros y gaeaf ac i drawsnewid y modd mae gwasanaethau yn cael eu cynnig yn y dyfodol. Fe all bawb chwarae eu rhan y gaeaf yma drwy ystyried opsiynau eraill fel cysylltu â gwasanaeth arlein 111 neu fferyllfeydd."