Fandaliaeth beics Caerdydd a'r Fro 'y gwaethaf yn y DU'

Disgrifiad o'r llun, Mae Nextbike wedi rhybuddio y gallai'r cynllun ddod i ben yn barhaol os nad yw'r sefyllfa'n gwella

Mae cynllun rhentu beics yn y brifddinas yn cael ei atal dros dro ar ôl misoedd o ddwyn, fandaliaeth a bygythiadau'n erbyn staff.

Bydd Nextbike yn dod â'r cynllun i ben yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg tan y flwyddyn nesaf.

Mae'r cwmni wedi cyflogi ymchwilwyr preifat ar ôl i dros hanner ei feics gael eu dwyn neu eu dinistrio.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Nextbike fod graddfa'r fandaliaeth a'r lladrata yn "syfrdanol" ac yn waeth nag unman arall yn y DU.

Bydd y cynllun yn cael ei atal o ddydd Llun, 15 Tachwedd tra bydd Nextbike yn atgyweirio ac yn ailosod beics.

Ond mae'r gweithredwr wedi rhybuddio y gallai'r cynllun ddod i ben yn barhaol os nad yw'r sefyllfa'n gwella.

Ers ei lansio mae tua 136,000 o bobl wedi defnyddio'r beics a dros 1.2 miliwn o dripiau wedi'u cymryd, yn ôl y cwmni.

Ond ers hynny mae 260 o feics wedi'u difetha oherwydd fandaliaeth, ac mae 300 o feics eraill wedi'u dwyn - gydag ychydig llai na hanner o'r rheiny wedi'u cipio ers mis Awst.

Disgrifiad o'r llun, Fe lansiodd Nextbike yng Nghaerdydd ym mis Mai 2018

Dywedodd Krysia Solheim, rheolwr gyfarwyddwr Nextbike UK, na all ei "thimau ymdopi â lefel y difrod a'r lladrad".

"Mae'n arbennig o dorcalonnus i wneud hyn yn ystod COP26, pan fydd llygaid y byd ar y DU wrth i arweinwyr geisio cytuno ar atebion newid yn yr hinsawdd," meddai.

Dywedodd Ms Solheim fod cwmni ymchwilio wedi dod o hyd i 16 o feics dros gyfnod o ddau ddiwrnod a'u bod "wedi eu syfrdanu gan yr ymddygiadau a welsant".

Apêl i'r gymuned

Dywedodd yr Arolygydd Darren Grady o Heddlu De Cymru na fyddai lladrad neu ddifrod i feics a cham-drin staff Nextbike yn cael ei oddef.

"Yng nghanol y ddinas yn unig, mae naw o bobl wedi eu cael yn euog yn y llys yn ddiweddar am droseddau o'r fath gan arwain at ddedfrydau carchar, dirwyon a gwaith cymunedol," meddai.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld y beics yn ôl ar y strydoedd yn fuan ac rydyn ni'n apelio ar y gymuned i helpu i amddiffyn y cynllun pan fydd yn dychwelyd."

Mae Nextbike yn edrych i weithredu mesurau fel mwy o gamerâu cylch cyfyng, symud gorsafoedd i ardaloedd sydd wedi'u goleuo'n well, a darparu camerâu corff i aelodau staff.