Â鶹ԼÅÄ

Pedwerydd padlfyrddiwr wedi marw ac arestio dynes

  • Cyhoeddwyd
Surfers and crowd at Aberavon Beach
Disgrifiad o’r llun,

Clwb Syrffio Aberafan yn cofio Paul O'Dwyer o Sandfields, Port Talbot fore Sadwrn

Mae pedwerydd padlfyrddiwr wedi marw a dynes wedi cael ei harestio wedi digwyddiad ar Afon Cleddau Wen ddydd Sadwrn, 30 Hydref.

Bu farw Andrea Powell, 41, yn yr ysbyty - eisoes nodwyd bod Nicola Wheatley, 40, o Bontarddulais, Paul O'Dwyer o Sandfields, Port Talbot a Morgan Rogers, 24, o Ferthyr Tudful wedi marw yn y digwyddiad yn Hwlffordd.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys bod dynes o ardal de Cymru wedi cael ei harestio ar amheuaeth o ddynladdiad ar sail esgeulustod difrifol.

Mae hi wedi cael ei rhyddhau tra bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau.

Fore Sadwrn fe wnaeth torf fawr o bobl ymgasglu yn Aberafan wrth i'r clwb syrffio lleol roi teyrnged i Mr O'Dwyer.

Cafodd y gwasanaethau brys eu hanfon i'r digwyddiad ger Stryd y Cei am tua 09:00 ar 30 Hydref wedi i grŵp o naw o bobl fynd i drafferthion tra'n padlfyrddio ar Afon Cleddau Wen.

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Eisoes nodwyd bod Nicola Wheatley, Paul O'Dwyer a Morgan Rogers wedi marw yn y digwyddiad

Cafodd Ms Powell o ardal Pen-y-bont ei chludo i Ysbyty Llwynhelyg ac fe gadarnhaodd yr heddlu fore Sadwrn ei bod wedi marw.

Mewn datganiad dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: "Ry'n yn meddwl am y teulu ac eraill sydd wedi bod ynghlwm â'r digwyddiad erchyll hwn."

Cafodd pump o bobl eraill eu tynnu allan o'r dŵr gan y gwasanaethau brys - doedden nhw ddim wedi cael eu hanafu.

'Person arbennig'

Gan siarad yn y digwyddiad yn Aberafan fore Sadwrn dywedodd Matthew Tamlin, cadeirydd y clwb syrffio bod cynnal digwyddiad o'r fath ond yn digwydd i bobl arbennig.

"Roedd Paul O'Dwyer yn berson arbennig ac yn ffrind arbennig i bawb. Roedd e wastad yn gwneud pethau i bobl eraill.

"I'r gymuned ac i'w deulu mae'n bwysig ein bod yn sefyll yma heddiw gyda'n gilydd - er mwyn taflu ychydig o oleuni ar adeg dywyll iawn," meddai.

Pynciau cysylltiedig