Menyw, 24, fu farw tra'n padlfyrddio yn 'enaid hardd'

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Morgan Rogers yn y digwyddiad yn Hwlffordd fore Sadwrn

Mae teulu menyw a fu farw mewn damwain padlfyrddio yn Sir Benfro wedi rhoi teyrnged i "enaid hardd, caredig a chariadus".

Roedd Morgan Rogers, 24, o Ferthyr Tudful, yn rhan o grŵp o naw o bobl fu'n padlfyrddio ar Afon Cleddau Wen yn Hwlffordd ddydd Sadwrn.

Bu farw Ms Rogers, a oedd yn ddirprwy reolwr mewn archfarchnad, a dau arall ar ôl mynd i drafferthion. Cafodd menyw arall ei hanafu'n ddifrifol.

Cafodd pump o bobl eraill eu tynnu allan o'r afon gan y gwasanaethau brys yn ddi-anaf.

Roedd y grŵp yn dod o South Wales Paddle Boarders a Salty Dog Co, cwmni wedi'i leoli ym Mhort Talbot.

'Gwên gynnes'

Dywedodd datganiad gan deulu Ms Rogers, a roddwyd i asiantaeth newyddion PA: "Roedd Morgan yn enaid hardd, caredig a chariadus, yn annwyl gan bawb sydd wedi cael eu cyffwrdd gan ei gwên gynnes a'i phersonoliaeth ofalgar.

"Nid oedd Morgan erioed yn hapusach na phan oedd yn yr awyr agored yn gwneud yr hyn yr oedd hi'n ei garu ac yn treulio amser gyda'i theulu.

"Bydd colled fawr ar ei hôl gan ei theulu a'i ffrindiau a phawb y mae hi wedi'u hadnabod ar hyd y ffordd.

"Bydd Morgan bob amser yn ein calonnau a'n hatgofion. Byddwn yn gweld ei eisiau yn ofnadwy."

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Roedd Morgan Rogers yn caru bod yn yr awyr agored, medd ei theulu

Mae teyrngedau eisoes wedi eu rhoi i'r dyn fu farw yn y digwyddiad, Paul O'Dwyer.

Nid yw aelodau eraill y grŵp wedi eu henwi'n swyddogol eto.

Ond swyddog heddlu oedd un o'r bobl fu'n rhan o'r ddamwain, yn ôl Heddlu De Cymru.

Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) wedi cadarnhau eu bod yn cynnal "asesiad cychwynnol" o'r digwyddiad.

Ffynhonnell y llun, Aberavon Green Stars RFC

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Paul O'Dwyer yn y digwyddiad fore Sadwrn

Cafodd y gwasanaethau brys eu hanfon i'r digwyddiad ger Stryd y Cei am tua 9:00 fore Sadwrn.

Dywedodd yr heddlu fod yr afon yn llifo'n uchel ac yn gyflym adeg y digwyddiad, ar ôl glaw trwm.

Cafodd nifer o rybuddion am dywydd garw eu cyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd y penwythnos diwethaf.