Galw am wneud mwy o ysgolion Caerdydd yn rhai Cymraeg

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Tair ysgol uwchradd Cymraeg sydd yng Nghaerdydd - Glantaf, Plasmawr a Bro Edern
  • Awdur, Owain Evans
  • Swydd, Newyddion S4C

Wrth i Gyngor Caerdydd ddechrau ymgynghori ar sut i ddatblygu Addysg Gymraeg yn y brifddinas dros y 10 mlynedd nesaf, mae un cynghorydd Llafur wedi dweud nad ydy'r cynllun yn ddigon uchelgeisiol.

Mae'r cyngor yn dweud y dylai o leiaf hanner ysgolion newydd y brifddinas fod yn rhai cyfrwng Cymraeg.

Ond dywedodd y Cynghorydd Stephen Cunnah wrth Newyddion S4C y dylai'r targed fod yn agosach at 100%.

Mae arweinydd y cyngor wedi gwadu fod diffyg uchelgais yn y cynlluniau, ac y bydd "rhwng 25% a 30% o'n holl ddisgyblion ni mewn addysg Gymraeg" yn y dyfodol.

Mae'r degawd diwethaf wedi bod yn gyfnod o dwf i Addysg Gymraeg yn y brifddinas.

Mae Ysgol Glan Morfa yn Sblot ymhlith yr ysgolion Cymraeg sydd wedi dyblu yn eu maint.

Mae 'na ysgolion newydd sbon hefyd fel Ysgol Hamadryad ac Ysgol Glan Ceubal, ond mae 'na rwystredigaeth nad yw'r cyngor wedi llwyddo i gynyddu maint ysgolion fel Mynydd Bychan a Nant Caerau.

18% o blant y brifddinas sy'n cael addysg Gymraeg ond erbyn diwedd y degawd mae Llywodraeth Cymru eisiau i hynny fod yn nes at 30%.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y Cynghorydd Stephen Cunnah bod angen i nifer yr ysgolion newydd Cymraeg fod yn nes at 100%

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi cynllun ar gyfer datblygu addysg Gymraeg dros y degawd nesaf.

Ynddo maen nhw'n dweud y byddan nhw'n ceisio sicrhau fod o leiaf hanner yr ysgolion newydd yn rhai cyfrwng Cymraeg, ond yn ôl y Cynghorydd Cunnah o ardal Treganna dyw hynny ddim yn ddigon.

"Mae'r cyngor wedi dweud o leia' hanner, a phan maen nhw'n gweithio yn y dyfodol i ddarparu ysgolion newydd byddan nhw'n ystyried pob opsiwn a gobeithio bydd y ganran bron yn 100%," meddai.

"Yma mae gynnon ni ddwy ysgol gynradd Gymraeg a dwy Saesneg. Mae'r rhan fwya' o blant yma yn cael addysg Gymraeg. I fi mae Treganna yn enghraifft i'r ddinas."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas y bydd "rhwng 25% a 30% o'n holl ddisgyblion ni mewn addysg Gymraeg" yn y dyfodol

Mae arweinydd y cyngor, Huw Thomas yn gwrthod yr awgrym nad yw'r cyngor yn ddigon uchelgeisiol.

"Mae'r cynllun ry'n ni'n ymgynghori arno nawr yn hollol glir am ein bwriad dros y bum mlynedd nesa' i ehangu nifer y ffrydiau Cymraeg yn y sector gynradd ac uwchradd a fydd yn cynnal y niferoedd fydd angen arnom ni i fwrw rhwng 25% a 30% o'n holl ddisgyblion ni mewn addysg Gymraeg," meddai.

Ond mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn poeni fod y strategaeth yn cynnwys cynlluniau sydd eisoes wedi eu cymeradwyo.

Dywedodd cadeirydd RhAG Caerdydd, Owain Rhys: "Yn achos 50% o'r ysgolion maen nhw'n sôn amdanyn nhw, mae 'na ddarpariaeth mewn lle ar hyn o bryd i ddatblygu'r ysgolion rheiny, felly dros y degawd nesa' dyw hynny ddim yn ddigonol."

Disgrifiad o'r llun, Yn ôl Owain Rhys o fudiad RhAG dyw'r cynlluniau presennol "ddim yn ddigonol"

Mae stad newydd Plasdŵr yn enghraifft o'r hyn allai'r cyngor ei wneud.

Mae 'na ysgol gynradd newydd yn cael ei hadeiladu yno gydag un ffrwd Gymraeg ac un ffrwd Saesneg, ond fe fydd yna ddefnydd sylweddol o'r Gymraeg yn y ffrwd Saesneg.

Dyw ymgyrchwyr dros addysg Gymraeg ddim wedi eu hargyhoeddi y bydd y ffrwd Saesneg yn helpu i gynhyrchu plant dwyieithog, ond mae Huw Thomas yn teimlo fod angen manteisio ar y cyfle.

"Gadewch i ni weld sut mae e'n gweithio yn Plasdŵr. Dwi'n credu bod yna gyfle os yw e'n llwyddiannus i ehangu'r model yma mewn ysgolion sydd ar hyn o bryd yn gwbl Saesneg eu hiaith," meddai.

Bydd y cyfnod ymgynghori yn para o leiaf wyth wythnos a'r cynllun yn cael ei gyflwyno i'w ystyried gan Lywodraeth Cymru yn y flwyddyn newydd.