Dechrau dymchwel tai stryd fwyaf llygredig Cymru

Mae'r gwaith o ddymchwel rhes o dai ar ffordd fwyaf llygredig Cymru wedi dechrau ddydd Iau.

Ffordd Hafodyrynys yn Sir Caerffili sydd â rhai o'r lefelau nitrogen deuocsid uchaf ym Mhrydain y tu ôl i ganol Llundain.

Roedd Cyngor Sir Caerffili wedi bwriadu dechrau'r gwaith o ddymchwel Teras Woodside ym mis Mai ond bu'n rhaid gohirio'r gwaith oherwydd y pandemig.

Cerbydau yn teithio rhwng siroedd Torfaen, Blaenau Gwent a rhannau o Gaerffili sy'n cael eu beio am y llygredd awyr.

Dywedodd Martin Brown, oedd yn byw ar Deras Woodside am 50 mlynedd: "Mae fy ngwraig Patricia yn beichio crio adref, ond dwi'n hapus fod hyn yn digwydd o'r diwedd.

Disgrifiad o'r llun, Roedd Martin Brown yn byw ar Deras Woodside am 50 mlynedd

"Ydyn mae'r tai yn mynd, ond mae gennym ni atgofion o'n hamser ni yma, y da a'r drwg.

"Ond roedd angen i'r tai ddod i lawr."

'Angen gwella ansawdd aer'

Fe wnaeth y cyngor brynu'r 23 o dai ar ôl dod i gytundebau gyda'r perchnogion.

Fe gafodd y gwaith o ddymchwel y tai ei ohirio ddwywaith, gan ennyn beirniadaeth gan drigolion lleol.

Dywedodd y cyngor bod y pandemig wedi achosi oedi i'r gwaith, ond ei bod hi'n ofynnol hefyd cynnal arolygon ecolegol a strwythurol a symud asbestos.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Caerffili, Phillippa Marsden: "Mae cyrraedd y pwynt yma wedi bod yn broses anodd, ond mae angen i ni wella ansawdd aer yr ardal a dyma yw'r ffordd orau o gyflawni'r nod hyn."