鶹Լ

'Dim budd beirniadu safon iaith pobl fel John Hartson'

  • Cyhoeddwyd
John Hartson

Nid oes "unrhyw fudd yn dod" o feirniadu safon iaith unigolion amlwg wrth iddyn nhw ddefnyddio'r Gymraeg ar radio neu deledu, yn ôl prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.

Roedd Efa Gruffudd Jones yn ymateb i ddadl ar y cyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos wedi i ohebydd gyda'r Western Mail farnu safon iaith John Hartson yn narllediad y gêm rhwng Cymru a'r Weriniaeth Siec nos Wener.

Ysgifennodd Rob Harries ar Twitter bod "hanner y geiriau mae John Hartson yn eu defnyddio ar S4C yn Saesneg" gan ychwanegu: "Ydyn nhw methu cael siaradwr Cymraeg?".

Fe wnaeth y sylw hwnnw esgor ar atebion lu yn amddiffyn y cyn-bêl-droediwr a'r sylwebydd, oedd yn canmol ei frwdfrydedd ac yn tanlinellu ei werth fel cyfrannwr yn sgil ei brofiad a'i arbenigedd o fewn y gamp.

Ymatebodd y cyn-ymosodwr ei hun fore Llun trwy drydar y bydd yn rhan o raglen Sgorio eto nos Lun, pan fydd Cymru'n wynebu Estonia, ac yn siarad Cymraeg "gyda thipyn o Wenglish".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan John Hartson

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan John Hartson

Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast ar ddechrau Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, dywedodd Efa Gruffudd Jones ei bod wedi mynd i'r un ysgol gynradd â John Hartson.

Dywedodd ei bod "wastad wedi edmygu ei dalent ar y maes pêl-droed" a'r "ffordd mae wedi cofleidio'r Gymraeg" ers dod i lygaid y cyhoedd.

"Mae John yn hollol amlwg yn falch iawn o'r Gymraeg a'i Gymreictod, a 'dwi ddim yn meddwl bod unrhyw fudd yn dod o feirniadu safon iaith John Hartson," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen diolch i bobl fel John Hartson am fod mor barod i ddefnyddio'r Cymraeg, medd Efa Gruffudd Jones

"Yn fy marn i, dylen ni groesawu cyfraniad pawb sy'n dymuno cyfathrebu a siarad yn Gymraeg a'i hannog nhw ac mae John yn enghraifft wych o rywun sy'n defnyddio'r Gymraeg wrth ei waith.

"Ddylen ni ddiolch yn fawr iddo fe am rannu o'i wybodaeth e am bêl-droed gyda lleygwyr fel ni.

"Y peth ola' ddylen ni wneud yw beirniadu rhywun fel John Hartson sy'n defnyddio'i Gymraeg yn hyderus wrth gyfathrebu."

'Acen a chywair naturiol'

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol nos Sadwrn dywedodd S4C bod John Hartson "yn sylwebydd profiadol sydd â hygrededd a dealltwriaeth wych o bêl-droed".

Ychwanegodd bod yn sianel "yn falch o'i gael yn rhan o'r tîm ac yn ei annog i ddadansoddi'r gemau yn ei acen a'i gywair naturiol".

Dywedodd Rob Harries nad oedd erioed wedi derbyn gymaint o feirniadaeth ar y cyfryngau cymdeithasol â'r hyn a ddenodd wedi ei sylw am John Hartson.

"Dydw i ddim yn casáu'r Gymraeg, na dysgwyr Cymraeg, a fyddwn i fyth yn annog rhywun rhag peidio dysgu fy iaith gyntaf.

"Wnes i, yn syml, fynegi barn fy mod (efallai) yn disgwyl gwell safon Cymraeg ar sianel deledu Gymraeg, fel yn achos y sylwebwyr a'r cyflwynwyr eraill."

"Nid wyf yn ymddiheuro am y farn honno, ond rwy'n teimlo'n ofnadwy os yw'r farn yna wedi perswadio unrhyw un i beidio dysgu neu siarad Cymraeg.

"Dysgwch Gymraeg, siaradwch Gymraeg, mae'n iaith hardd."

Daeth y feirniadaeth oriau wedi i gapten Cymru nos Wener, Aaron Ramsey gael canmoliaeth am wneud cyfweliad yn Gymraeg ar drothwy'r gêm yn erbyn y Weriniaeth Siec.