Oriel: Gŵyl FOCUS Wales

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Afro Cluster, y band ffync/hip hop o Gaerdydd yn perfformio ar lwyfan TÅ· Pawb

Gyda 250 o fandiau ar ugain llwyfan ar draws Wrecsam, mae gŵyl FOCUS Wales wedi bod yn dathlu ei degfed pen-blwydd mewn steil.

Am dridiau, gan ddechrau ar 7 Hydref, mae'r ŵyl gerddorol yn rhoi llwyfan i fandiau Cymreig ac artistiaid ar draws y byd. Oherwydd cyfyngiadau Covid, dyma'r tro cyntaf i FOCUS Wales gael ei chynnal ers 2019.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Alicia Edelweiss, o Vienna, yn perfformio yn Eglwys San Silyn. Mae Alicia wedi perfformio ar ei phen ei hun ar draws Ewrop gan gyd-weithio gyda cherddorion a pherfformwyr syrcas

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Eädyth, y cerddor o Aberfan fu'n un o artistiaid Gorwelion Â鶹ԼÅÄ Cymru, yn perfformio yn Central

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Eglwys San Silyn oedd y lleoliad trawiadol ar gyfer yr artist o Eryri, Hannah Willwood

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Y band o ogledd Cymru KIM HON yn yr HWB Cymraeg

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Hollie Rogers, o Lundain, yn perfformio ei cherddoriaeth gwerin/Americana yn Old No. 7 Bar

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Twm Herd ac Osian Land o'r band Dienw ar lwyfan HWB Cymraeg. Fe wnaeth y ddeuawd o ardal Llanrug ffurfio nôl yn 2017

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, The Faps - band pync o Ganada

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Emmi (Baby Brave), band o ogledd Cymru ffurfiwyd yn 2014, yn nhafarn The Royal Oak

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Bottlecap, band pync o Sweden, ar lwyfan TÅ· Pawb...

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, ... a'u drymiwr nhw yn mynd amdani

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Minas - prosiect y cynhyrchydd o Gaerdydd, James Minas

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Heb drefnwyr does dim gŵyl - rhai o dîm FOCUS Wales

Hefyd o ddiddordeb: