Â鶹ԼÅÄ

Andrew RT Davies i 'gymryd saib' dros iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Andrew RT Davies

Fe fydd arweinydd y Ceidwadwyr Cymraeg, Andrew RT Davies, yn "cymryd saib" o wleidyddiaeth er mwyn delio gyda'i iechyd meddwl.

Mewn datganiad, dywedodd Mr Davies - sydd wedi dioddef coronafeirws a'r ffliw yn ddiweddar - bod ei salwch wedi cael "effaith ar ei les meddyliol".

"Fel nifer o ddynion, roeddwn i'n credu mod i'n anorchfygol, ac fel nifer eraill sydd wedi dioddef, dwi wedi ystyried a ddylwn ddweud hyn yn gyhoeddus," meddai.

"Ond fel arweinydd, dwi'n credu mewn gosod esiampl a dwi eisiau bod yn agored ac yn onest.

"Felly, o dan orchymyn y meddyg, dwi am gymryd saib o wleidyddiaeth er mwyn gwella a bownsio nôl o'r anawsterau dwi wedi eu hwynebu dros y pythefnos diwethaf."

Fe fydd cyn-arweinydd y blaid Geidwadol yn y Senedd, Paul Davies yn cymryd lle Mr Davies tra ei fod yn gwella.