Elinor Barker yn feichiog pan enillodd arian yn y Gemau Olympaidd

Ffynhonnell y llun, Rex Features

Disgrifiad o'r llun, Fe ddatgelodd Elinor Barker y newyddion ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Mawrth

Mae Elinor Barker wedi datgelu ei bod yn disgwyl ei phlentyn cyntaf a'i bod yn feichiog pan enillodd arian yng Ngemau Olympaidd Tokyo.

Roedd y seiclwr 27 oed o Gaerdydd yn rhan o dîm menywod Prydain a gipiodd fedal ym mis Awst.

Cyhoeddodd Barker ei newyddion ar Twitter ddydd Mawrth, gan ddweud ei bod hi a'i phartner "mor gyffrous i ddechrau rhan nesaf ein bywydau gyda'n gilydd".

Ychwanegodd ar Instagram: "yep, roeddwn i'n feichiog yng Ngemau Olympaidd Tokyo".

Mae newyddion da Barker yn fwy arbennig fyth wedi iddi ddatgelu yn 2019 ei bod yn dioddef o endometriosis, cyflwr a all achosi poen, mislif trwm a blinder.

Mae'r cyflwr yn effeithio ar tua un o bob 10 merch o oedran atgenhedlu a gall hefyd ei gwneud hi'n anoddach beichiogi.