Â鶹ԼÅÄ

Pryderon banciau bwyd am dorri credyd cynhwysol

  • Cyhoeddwyd
Gwirfoddolwyr yn llenwi fan gyda bwyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Canolfan Maerdy Tairgwaith yn darparu bwyd i dros 1,000 o bobl

Yr wythnos hon fe fydd y cynnydd o £20 yr wythnos i Gredyd Cynhwysol a Chredydau Treth Gwaith yn dod i ben.

Ond mae teuluoedd sy'n derbyn y cymorth, ac elusennau sy'n eu helpu, yn pryderu am effaith y toriadau i'r gyllideb ar bobl sydd ei angen.

Mae Canolfan Maerdy yn Nhairgwaith, yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn casglu bwyd o archfarchnadoedd lleol ac elusen Fareshare Cymru, ac fe fydd tîm o wirfoddolwyr wedyn yn paratoi'r bwyd mewn bocsys er mwyn i deuluoedd ddod i'w casglu.

Ar y diwrnod y bues i yno roedd dros ddeugain o focsys bwyd wedi eu pacio. Digon i baratoi prydau i tua 150 o bobl - y rhan fwyaf o Ddyffryn Aman. Ond mae rhai wedi teithio yma o Gydweli, Abertawe ac Aberhonddu.

Mae'r banc bwyd ar agor tridiau'r wythnos.

Dywedodd un o sylfaenwyr yr hwb bwyd, Len Preece bod y sefyllfa yn gwaethygu, a'u bod nhw nawr yn "dechre gweld pobl broffesiynol fel nyrsys er enghraifft" yn cyrraedd, yn enwedig ar ddiwedd y mis cyn i bobl dderbyn eu cyflogau.

"'S'dim digon o arian gan deuluoedd i brynu bwyd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Julia Davies (chwith) bod yna alw mawr am wasanaethau banciau bwyd ar hyn o bryd

Un o gefnogwyr y cynllun yw Julia Davies, sydd yn gweithio yn y feithrinfa yn y ganolfan. Mae hi'n dweud bod galw mawr am yr help sydd ar gael yn yr hwb bwyd, "a gyda phrisiau popeth yn codi, bydd mwy o alw cyn bo hir".

Mae'r £20 a gafodd ei ychwanegu yn wythnosol i bobl sydd yn derbyn credyd cynhwysol yn cael ei dorri, ac yn dod i ben yn swyddogol ar 6 Hydref.

Mae hwn wedi ei ddisgrifio fel y toriadau mwyaf i ofal cymdeithasol ers yr Ail Ryfel Byd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae bwyd yn cael ei gasglu o archfarchnadoedd ac elusen Fareshare Cymru

Yn ôl Llywodraeth y DU, roedden nhw wedi gwneud yn glir o'r dechrau fod y cynnydd o £20 ond yn fesur dros dro i gefnogi cartrefi gafodd eu heffeithio gan sioc economaidd Covid-19.

Ond er mai dyddiau yn unig sydd i fynd cyn i'r cymorth ychwanegol ddod i ben yn swyddogol, mae gwleidyddion ac elusennau yn dal i apelio ar y llywodraeth i newid eu meddwl.

Yn y dyddiau diwethaf mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford a holl brif weinidogion y gwledydd datganoledig wedi ysgrifennu at Boris Johnson yn galw arno "gyda'r brys mwyaf, i wyrdroi penderfyniad annoeth".

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna bryder bydd banciau bwyd yn fwy prysur nac erioed dros y gaeaf o ganlyniad i'r toriad i gredyd cynhwysol

Ac yng Nghanolfan Maerdy yn Nhairgwaith mae pryder gwirioneddol ymysg gwirfoddolwyr bod gaeaf prysur o'u blaenau, gyda mwy o alw am help.

"Os oes gyda chi'r dewrder i giwio mewn banc bwyd... ry'ch chi siŵr o fod wedi cyrraedd pen eich tennyn," meddai Mr Preece.

"Ry'n ni nawr yn helpu tua 1,000 o bobl y mis, ond wrth i bris bwyd a thanwydd godi, bydd y galw am gymorth yn cynyddu, a'r ciwiau fan hyn yn hwb bwyd Canolfan Maerdy yn mynd yn hirach."