鶹Լ

Aelwyd Llangwm yn dathlu pen-blwydd 80

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Aelwyd LlangwmFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau'r aelwyd yn cymryd rhan yn y dathliadau

Mae'n benwythnos o ddathlu ym mhentref gwledig Llangwm yn Sir Conwy a hynny wrth i aelwyd yr Urdd yno ddathlu ei phen-blwydd yn 80 oed.

Cafodd yr aelwyd ei ffurfio yn ystod yr Ail Ryfel y Byd ac ar hyd y blynyddoedd mae wedi cael cryn lwyddiant ar lwyfan eisteddfodau'r Urdd.

Roedd y dathliad dros y penwythnos yn gyfle i gwrdd unwaith yn rhagor a hynny wedi misoedd o beidio gallu ymarfer yn sgil Covid. Dywed un o'r arweinyddion, Meinir Lynch, nad yw hi'n digalonni.

"Mae yna fwlch wedi bod oherwydd Covid yng ngweithgareddau cyffredinol yr aelwyd yn ogystal ag Eisteddfod yr Urdd wrth reswm ond 'dan ni ddim yn mynd i ddigalonni," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r aelwyd wedi cael cryn lwyddiant ar lwyfan eisteddfodau'r urdd ar hyd y blynyddoedd

"Mae rhywun wedi cael blynyddoedd tlotach a chyfnodau tlotach na hyn o ran nifer aelodau - ond o hyd 'dan ni wedi dal i fynd rywsut ac mi wnawn eto.

"Mae'r criw ifanc 'ma mor frwdfrydig ac mae'n gymaint o bleser ymwneud efo nhw. Ie hwyl a chymdeithasu - mae hynna'n mynd i fod yn rhan o fywydau ieuenctid am byth."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Aelwyd Llangwm

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Aelwyd Llangwm

'Atgofion braf'

Dau aelod oedd yna i gymryd rhan yn y dathliadau ddydd Sadwrn oedd Iestyn Dylan Jones, 27, ac Eilir Jones, 80.

Mae'r aelwyd wedi rhoi atgofion "braf" i'r ddau.

"Lot o ffrindiau, cystadlu yn yr Urdd... a chyfle jyst i gymdeithasu a mynd am beint ar ôl pob ymarfer" yw'r prif bethau mae Iestyn yn cofio o'r 10 mlynedd diwethaf fel aelod.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r aelwyd wedi rhoi atgofion "braf" i Eilir Jones ac Iestyn Dylan Jones

Ond mynnodd Eilir nad oedd pethau'r un peth pan yr oedd yn aelod ifanc: "Doedden ni ddim yn cael peint amser hynny, paned oeddan ni'n cael!"

"Dwi'm yn coelio chi Eilir!" yw ymateb Iestyn.

'Wastad croeso'

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau o bob oedran yn dod ynghyd i ddathlu

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cyn-aelodau'n dathlu'r pen-blwydd

I bobl ifanc yr ardal mae'r aelwyd yn holl bwysig ac yn rhoi hyder iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.

"Mae'n esgus i bawb gael at ei gilydd - yn enwedig mewn ardal cefn gwlad - yn esgus i bawb rannu storis a chael bach o hwyl," medd un aelod.

"Dwi'n mwynhau cwmni pobl a mwynhau canu a llefaru - a gneud ffrindiau newydd," medd un arall.

Ffynhonnell y llun, Aelwyd Llangwm
Disgrifiad o’r llun,

Cofnodi pen blwydd yr aelwyd yn 75

Mae'r aelwyd yn croesawu pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed.

"'Dan ni wedi tyfu lan yn y math yma o ddiwylliant. Dyw o ddim fel bod ni'n cyrraedd yma yn 14 oed - 'dan ni wedi bod yn yr adran a'r uwch adran - mae'r cyfan yn rhan o fywyd pobl ifanc Llangwm ar hyd eu hoes.

"Hyd yn oed pan 'dan ni'n mynd dros y trothwy oedran 'dan ni wastad yn teimlo bod croeso i ni mewn cyngherddau ac yn y dathlu hwn dros y penwythnos."

"Yr hyn sy'n dda am Aelwyd Llangwm yw mai ni sy'n eu rhedeg hi - ni sy'n trefnu nosweithiau - nid yn unig yr ymarferion ar gyfer cystadlu ond y digwyddiadau cymdeithasol hefyd. Mae hynna'n brofiad grêt ac yn magu ein hyder fel unigolion."

"Mae'r aelwyd yn galon ein cymuned ni yn Llangwm - heb yr aelwyd fyddai pobl ifanc ddim yn dod at ei gilydd. 'Dan ni'n ymarfer nos Sul a mae chael storis nos Sadwrn yn 'neud y peth yn fwy entertaining. 'Dan ni'n gobeithio rŵan am 80 mlynedd arall!" ychwanegodd aelod arall.