Â鶹ԼÅÄ

Cory Hill: Seren rygbi Cymru'n un o griw wnaeth ddifrod i dÅ·

  • Cyhoeddwyd
Mae Cory Hill wedi ennill 32 o gapiau dros ei wladFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cory Hill wedi ennill 32 o gapiau dros ei wlad

Mae menyw wedi sôn ei bod yn ofni am fywydau hi a'i phlant pan achosodd criw o ddynion - gan gynnwys y chwaraewr rygbi rhyngwladol, Cory Hill - ddifrod i'w chartref.

Mae'r fenyw - sydd ddim eisiau datgelu ei henw - wedi cwyno i Heddlu'r De am y modd y buon nhw'n ymchwilio i'r digwyddiad yn Rhondda Cynon Taf fis Mai.

Mae'r heddlu yn cynnal ymchwiliad i'r gŵyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Hill ei fod wedi ymddiheuro'n llawn trwy Rygbi Caerdydd a'r heddlu.

Ychwanegodd bod y tri dyn wedi mynd i'r tÅ· anghywir, oherwydd eu bod dan yr argraff bod rhywun roedd un o'r criw yn ei adnabod yn byw yno.

Deellir bod y chwaraewr 29 oed - fu'n cynrychioli Cymru, Caerdydd a'r Dreigiau - dan ddylanwad alcohol.

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru'n deall bod Rygbi Caerdydd ac Undeb Rygbi Cymru wedi cael gwybod am y digwyddiad ar y pryd.

'Llawr yn crynu'

Mae Sara - nid ei henw iawn - wedi bod yn disgrifio'r hyn ddigwyddodd y tu allan i'w chartref yn oriau mân y bore ar 29 Mai.

"Roeddwn i'n gallu clywed sŵn gwydr yn torri yn erbyn ffenestri lan llofft, a'r sŵn curo ofnadwy ar ddrws y tŷ," meddai.

"Roedd y llawr yn crynu dan fy nhraed."

Dywedodd bod y digwyddiad wedi para hyd at chwarter awr, ac wedi cael effaith sylweddol arni hi a'i phlant.

"Fe ddywedais wrth fy mhlentyn hyna' i fynd â'r babi a chuddio yn yr ystafell wely, oherwydd roeddwn yn credu bod rhywbeth ofnadwy yn mynd i ddigwydd."

Disgrifiodd yr olygfa fel un ar ôl ffrwydrad, gyda gwydr ymhobman y tu allan i'w thŷ.

Deellir nad oedd Mr Hill yn gyfrifol am daflu poteli gwydr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cory Hill (ar y dde mewn crys glas) yn chwarae dros Gleision Caerdydd yn erbyn Munster ar 28 Mai - diwrnod cyn y digwyddiad

Yn ôl Sara, roedd yr heddlu wedi cyrraedd yn gyflym, ond roedd hi'n teimlo bod eu hymateb wedi newid pan sylweddolon nhw mai Cory Hill oedd un o'r dynion.

"Dyna pryd newidiodd popeth o ran eu hymateb," meddai.

"Fe wnaeth yr heddlu yn glir i fi byddai'n wastraff amser ceisio mynd â'r achos i'r llys.

"Roeddwn i'n cael y teimlad bod yr holl beth yn anghyfleustra, ac na fyddai unrhyw beth yn digwydd," meddai.

Yn ôl Sara, roedd un o'r dynion wedi ceisio glanhau y tu allan i'r tŷ, yn dilyn awgrym gan yr heddlu.

Fe dderbyniodd hi £100 gan yr un dyn, meddai.

Dywedodd ei bod wedi derbyn ymddiheuriad gan ddau o'r dynion, ond dim ond ymddiheuriad anuniongyrchol gan Mr Hill.

'Ymchwiliad mewnol llawn'

Yn ôl Heddlu'r De, cafodd y mater ei ddelio trwy'r hyn sy'n cael ei alw'n ddatrysiad cymunedol.

Dywedodd Sara ei bod wedi cytuno â'r hyn wnaeth yr heddlu ar y noson, ond erbyn hyn mae hi'n credu nad oedd yn addas, ac y dylai'r heddlu fod wedi delio â'r achos yn wahanol.

Mae hi wedi cwyno i adran safonau proffesiynol Heddlu'r De.

Cadarnhaodd y prif arolygydd Anthony Moyle o Heddlu'r De bod dyn yn ei ugeiniau hwyr wedi cyfaddef achosi difrod i eiddo, ac wedi ymddiheuro ac wedi talu am y difrod.

Dywedodd bod y dioddefwr wedi cytuno â'r penderfyniad i ddelio â'r mater y tu allan i'r llys ar y pryd, ond daeth i'r amlwg yn ddiweddarach nad oedd hi'n fodlon.

"Fe allai gadarnhau ein bod wedi derbyn cwyn gan y dioddefwr yn ddiweddarach, sy'n destun ymchwiliad, ac ni allwn ymateb ymhellach hyd nes bod y broses ar ben," meddai.

Ychwanegodd y byddai'r heddlu yn gweithio gyda hi i ymateb i'w phryderon.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cory Hill mewn cynhadledd i'r wasg yn 2017

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi gweld gohebiaeth yn dangos bod Rygbi Caerdydd ac Undeb Rygbi Cymru yn ymwybodol o'r digwyddiad.

Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Cory Hill ei fod yn gadael ei gytundeb gyda Chaerdydd yn gynnar, ac yn mynd i chwarae yn Japan, sy'n golygu nad yw'n gymwys i gynrychioli Cymru ar hyn o bryd.

Mae bellach yn chwarae i glwb Yokohama Cannon Eagles.

Dywedodd Rygbi Caerdydd - oedd yn cyflogi Cory Hill ar y pryd - bod ymchwiliad wedi digwydd, a'u bod wedi siarad â Mr Hill mewn cyfarfod disgyblu.

Mewn datganiad i Â鶹ԼÅÄ Cymru, dywedodd llefarydd bod "ymchwiliad mewnol llawn wedi digwydd".

"Dyw'r chwaraewr ddim yn cael ei gyflogi gan Rygbi Caerdydd bellach. Ond, fel y gallwch ddeall, allwn ni ddim a gwneud sylwadau cyhoeddus ynglŷn â materion cyflogaeth mewnol."

Cadarnhaodd Undeb Rygbi Cymru bod Rygbi Caerdydd wedi ymchwilio i'r digwyddiad fel mater disgyblu, a'u bod yn cefnogi ymateb y clwb.

Ond dywedodd Sara ei bod yn siomedig nad oedd y digwyddiad wedi'i gydnabod yn gyhoeddus.

"Mae'r effaith mae hwn wedi'i gael arna i yn gorfforol a meddyliol yn eitha' sylweddol," meddai

Dywedodd bod ei phlentyn ieuengaf yn sgrechian pan mae rhywun yn curo'r drws.

"Y themâu sy'n dod lan yn fan hyn yw pŵer a statws, ac os oes gennych chi bŵer a statws, ac yn ymwneud â chwaraeon, allwch chi wneud bron â bod be bynnag liciwch chi.

"Dwi'n teimlo mai dyna'r neges maen nhw'n ei roi i unrhyw fachgen ifanc sydd eisiau bod yn chwaraewr rygbi."

Ymddiheuriad

Dywedodd llefarydd ar ran Cory Hill ei fod "yn wir ddrwg ganddo fe, a'r dynion eraill am eu camgymeriad gwirioneddol yn mynd i'r tÅ· anghywir, ac achosi difrod, ac am unrhyw ofid i'r bobl oedd yn y tÅ·".

Roedd Mr Hill "wedi cydweithredu'n llawn ar bob achlysur gyda Rygbi Caerdydd, oedd yn ei gyflogi ar y pryd, URC, a'r heddlu fu'n ymchwilio i'r mater ac a gymrodd y camau roedden nhw'n ystyried yn rhai priodol".

Ychwanegodd y llefarydd bod Mr Hill wedi ceisio cysylltu â'r wraig oedd yn y tŷ i ymddiheuro'n uniongyrchol, a'i fod wedi gwneud ymddiheuriad llawn iddi trwy Rygbi Caerdydd a thrwy'r heddlu.

"Roedd yn gamgymeriad, ac mae'n wirioneddol ddrwg gan Mr Hill am fod yn rhan o'r digwyddiad ac am unrhyw ofid a achoswyd."