Â鶹ԼÅÄ

Bardd y Mis: Pum Munud gyda Mary Green o Batagonia

  • Cyhoeddwyd
Mary Green de Borda gyda dau aelod Gorsedd LlydawFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mary Green de Borda (canol) gydag aelodau Gorsedd Llydaw yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

Y bardd o Batagonia, Mary Green de Borda, yw Bardd Mis Tachwedd Radio Cymru.

Wedi ei magu ar y fferm deuluol yn Nhrevelin, yn yr Andes, roedd hi'n siarad Cymraeg yn y cartref, y capel a gyda chymdogion, a Sbaeneg yn yr ysgol a thu hwnt.

Mae wedi treulio sawl cyfnod yng Nghymru ac yn gweithio fel athrawes ysgol uwchradd ym Mhatagonia a chefnogi dysgwyr Cymraeg newydd yn Y Wladfa.

Beth yw eich atgofion o ymweld â Chymru am y tro cyntaf?

Ym mis Gorffennaf 1966 cyrhaeddais yr Hen Wlad am y tro cyntaf, efo Dad a Charlie, fy mrawd. Glanio yn Southampton a chymryd y trên i Gaerfyrddin lle 'roedd Glyn Ifans, prifathro Ysgol Uwchradd Tregaron yn disgwyl amdanom. Y cyngor cawsom ganddo: gofyn am docynnau i Carmarthen, gan na fyddai'r gwerthwr yn ein deall wrth ofyn am Gaerfyrddin!

Y profiad nesa' oedd Eisteddfod Genedlaethol Aberafan, agoriad llygaid yn wir! Yna mynychu Fform 2A yn Ysgol Tregaron - yr athro Cymraeg oedd John Roderick Rees. Mrs Ethel Jones, arweinydd côr yr ysgol, oedd yn mynd â ni i gystadlu mewn eisteddfodau fel rhai'r Urdd.

Cofiaf fod pawb drwy'r wlad yn gyffrous am fod Gwynfor Evans wedi ennill ei sedd dros Blaid Cymru am y tro cyntaf erioed. Amser cofiadwy!

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Parhau â'r traddodiad... Sara, merch Mary, yn derbyn gradd MA ym Mhrifysgol Caerdydd, Awst 2018. Fe raddiodd Mary (ar y dde) mewn Cymraeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Abertawe yn yr 1970au. Hefyd yn y llun mae Ariela Gibbon, o'r Gaiman

Ai dim ond yn y Gymraeg ydych chi'n barddoni? Os felly, pam?

Ie, yn y Gymraeg, am mai dyna iaith y cartre', iaith fy magwraeth. Dysgu darllen, dysgu adrodd a chanu ac fel canlyniad mae rhythm a geiriau'r iaith yn nythu yn ddwfn yn yr isymwybod yn sicr. Pan ddaw'r amser i fynegi teimladau, dyma'r ffordd i mi.

Fe fuoch chi'n cefnogi dysgwyr newydd y Gymraeg yn yr Andes, faint o ddiddordeb sydd i'r Gymraeg yno o'i gymharu â phan oeddech chi'n blentyn a sut mae hybu'r Gymraeg yno?

Daeth Cynllun yr Iaith Gymraeg i Chubut yn 1997, a chyfle newydd i'r rhai oedd yn dymuno ail afael yn iaith eu plentyndod a hefyd i eraill nad oedd o dras Gymreig i ymuno â'r bywyd Cymraeg. Fel canlyniad mae tair ysgol gynradd ddwyieithog Cymraeg/Sbaeneg yn y dalaith.

Un yn Nhrelew, un yn y Gaiman ac un yma yn Nhrevelin. Mae'r gwersi i oedolion yn dal ar-lein, fel canlyniad i'r pandemig, a hynny wedi rhoi cyfle i ddysgwyr o ardaloedd pellach allu ymuno. Newyddion da ar y cyfan felly.

Pa un llenor o Dde America fyddech chi'n argymell i'r Cymry?

Disgrifiad o’r llun,

Jorge Luis Borges mewn cyfweliad ym 1963

Os mai llenor yn yr iaith Gymraeg, awgrymaf Irma a'i chwaer Arel, merched i ddyn diwylliedig sef Arthur Hughes. Mae eu cerddi yn syml, soniarus a hyfryd.

Os mai yn y Sbaeneg mae'r dewis yn eang iawn, ond awgrymaf un sydd yn adnabyddus am ei wybodaeth enfawr o lenyddiaeth eang amlieithog, sef Jorge Luis Borges a fagwyd yn Buenos Aires. Mae o'n feistr ar y stori fer ac yn fardd.

Ydi statws a rôl beirdd yn wahanol ym Mhatagonia a Chymru? A sut mae'n cymharu efo gwledydd eraill yn Ne America?

Mae bod yn fardd ymysg y Cymry yn beth llawer mwy cyffredin a gwerinol, mi gredaf, nag mewn cenhedloedd eraill. Mae hyn yn wir wrth gyferbynnu'r Cymry boed yn y Wladfa neu yng Nghymru, gyda gweddill De America sydd yn Sbaenaidd ei hiaith.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Seremoni cadeirio Eisteddfod y Wladfa 2017, Trelew

Petaech chi'n gallu bod yn unrhyw fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?

Baswn yn hoffi bod yn esgidiau Ann Griffiths Dolwar Fach am ddiwrnod, efallai. Yn gallu treiddio i ddyfnderau ei phrofiadau ysbrydol, ac yna'n medru eu mynegi gyda'r fath angerdd a didwylledd, mewn geiriau a phenillion swynol a choeth.

Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?

Mae caneuon i blant María Elena Walsh yn adnabyddus iawn yma yn Ariannin, yn llawn dychymyg a hwyl ac eto'n ddwfn. Mae canu fel hyn yn grefft.

Ffynhonnell y llun, Archivo General de la Nación
Disgrifiad o’r llun,

María Elena Walsh yn arwyddo ei llyfrau yn 1962

Beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd?

'Does dim 'ar y gweill' ar hyn o bryd, ond os fydd iechyd yn caniatáu, efallai mai rhywbeth yn ymwneud â chyfieithu byddai hynny. Mae Llyfr Glas Nebo newydd gael ei drosi o'r Gymraeg i'r Sbaeneg gan Sara, fy merch, digwyddiad cyffrous sy'n clymu unwaith eto'r Wladfa a'r Hen Wlad!