Ymateb cymysg wrth i Gymru gyflwyno pasys Covid

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Llywodraeth Cymru'n dweud fod y dechnoleg eisoes yno i wirio pasys Covid

Mae ymgyrchwyr anabledd ymhlith y rheiny sydd wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno 'pas Covid' i fynychu rhai digwyddiadau.

Ond mae eraill, gan gynnwys cynrychiolwyr o'r diwydiant lletygarwch, wedi mynegi pryder y gallai'r rheolau barhau i amharu ar allu clybiau i redeg eu busnes yn llwyddiannus.

Bydd yn rhaid i unrhyw un dros 18 sydd am fynd i glwb nos neu ddigwyddiad torfol ddangos eu bod nhw unai wedi cael eu brechu'n llawn, neu wedi cael prawf LFT negyddol yn y 48 awr ddiwethaf.

Fodd bynnag, gallai hynny fod yn broblem i rai gan fod problemau technegol wedi golygu nad yw brechiadau pawb yng Nghymru wedi eu cofnodi'n iawn eto.

'Dim manylion'

Mae Holly Greader, 23, o Gaerdydd yn dioddef o sawl salwch cronig, a dywedodd y byddai'n rhoi tawelwch meddwl iddi wrth fynd i ddigwyddiadau o wybod fod angen pasys Covid ar bobl eraill oedd yno hefyd.

Ond dywedodd yr ymgyrchydd anabledd y gallai'r rheolau fod hyd yn oed yn gryfach, gan ofyn am frechiad llawn a phrawf negyddol, a chynnwys bwytai a thafarndai hefyd.

"Mae gennym ni lawer o broblemau meddygol yn barod, a byddai ychwanegu Covid at hynny yn ein gwneud ni'n fwy sâl," meddai.

"Gallai arwain at bwynt ble does gennym ni ddim dewis i fynd allan ai peidio, achos mae ein hiechyd wedi penderfynu drosom."

Ffynhonnell y llun, Holly Greader

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Holly Greader, 23, fod angen sicrhau nad yw'r pasys yn rhoi pobl sydd methu cael y brechlyn dan anfantais

Rhybuddiodd David Chapman, cyfarwyddwr UK Hospitality yng Nghymru, y byddai'r pasys yn debygol o arwain at fwy o bobl yn cynnal partïon yn eu tai yn hytrach na mynd i glybiau nos.

Ychwanegodd y byddai hynny'n peryglu'r tymor Nadolig i'r diwydiant, sydd yn torri boliau angen yr incwm yn dilyn y misoedd o gyfyngiadau.

"Dydy'r newid yma ddim wedi dod gyda manylion, dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd y sgil effeithiau ar gyfer tafarndai sy'n troi'n glybiau nos, neu sut 'dyn ni'n trin pobl sy'n dod i'r clwb heb drwydded," meddai.

"Mae cymaint o ansicrwydd mae'n rhaid i'r diwydiant nawr geisio datrys mewn cyfnod o dair wythnos - dydy hynny ddim yn helpu ymarferoldeb."

Problemau cyfrifiadurol

Mae pryderon hefyd wedi codi fod problemau technegol yn golygu nad yw rhai brechiadau wedi cael eu cofnodi, gan olygu y byddai pasys rhai pobl yn anghyflawn.

Dywedodd Christine Hire, 61, o Lanelli ei bod hi wedi darganfod nad oedd ei hail frechiad ar ei record wedi iddi geisio cael tystysgrif Covid cyn mynd ar wyliau gyda'i gŵr i Jersey.

"Fe ddywedon nhw fod angen i fi barhau i wirio, ond roedd hyn yn ôl ym mis Mehefin - pa mor hir mae hwn am gymryd i ddatrys?" meddai.

"Fe ddywedon nhw wrtha i fod [y broblem gyfrifiadurol] wedi effeithio ar filoedd o bobl.

"Bydd rhaid i fi fynd gyda fy mhas papur, dwi jyst yn gobeithio y bydd hynny'n ddigon."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "ymwybodol o broblemau technegol... mewn lleiafrif o achosion ac yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatrys hyn".