'Rhaid mesur effaith y pandemig ar y Gymraeg'

Mae angen mesur effaith Covid-19 ar yr iaith er bod casgliadau arolwg wedi dangos cynnydd yng nghanrannau'r boblogaeth sy'n ei siarad, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.

Mae'r ffaith i Arolwg Defnydd Iaith diweddaraf Llywodraeth Cymru awgrymu bod 22% yn gallu ei siarad a 56% yn ei defnyddio bob dydd yn newyddion calonogol, medd Aled Roberts.

Ond fe ddaeth yr arolwg i ben yn gynt na'r bwriad oherwydd y pandemig ac o'r herwydd nid yw'n adlewyrchu'r sefyllfa yn ei sgil.

Mae'r Comisiynydd yn rhybuddio y gallai'r pandemig, sydd "wedi arwain at newid yn y ffordd ydym yn byw ein bywydau ac ymwneud â'n gilydd" arwain at ostyngiad yn y ffigyrau.

Dywedodd: "Mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn bwrw ati'n fuan i fesur effaith y pandemig ar yr iaith, a defnyddio'r canfyddiadau fel sail ar gyfer cynlluniau adfer ac ailgodi."

Disgrifiad o'r llun, Bydd Aled Roberts yn cyhoeddi adroddiad pum mlynedd ar sefyllfa'r Gymraeg yn ystod yr hydref

Roedd arolwg 2019-20 yn dangos cynnydd yng nghanran y siaradwyr Cymraeg sy'n siarad yr iaith bob dydd - 56% o'i gymharu â 53% yn 2013-2015.

Dywedodd Mr Roberts: "Yn sicr, mae'r canlyniadau yn dangos cam i'r cyfeiriad cywir. Er hynny, mae targed Llywodraeth Cymru o ddyblu'r ganran o'r boblogaeth sy'n siarad Cymraeg bod dydd erbyn 2050 yn uchelgeisiol iawn.

"Yr her nawr yw edrych ar yr ystadegau a gweld sut gellir sicrhau rhagor o gynnydd.

'Rhwng cyhoeddi'r adroddiad hwn a'r adroddiad blaenorol, mae nifer o ddatblygiadau pwysig wedi bod o ran hybu a hyrwyddo'r Gymraeg - o gyflwyno safonau'r Gymraeg a sefydlu hawliau iaith, i strategaeth y Llywodraeth a'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, i enwi ond rhai."

Ychwanegodd y bydd yn cyhoeddi adroddiad "cynhwysfawr" yn ystod yr hydref ar sefyllfa'r Gymraeg, a fydd yn "pwyso a mesur y gwahanol ddatblygiadau a'r ffactorau sydd wedi effeithio ar yr iaith rhwng 2015 a 2020".

Bydd yr adroddiad hwnnw'n "fodd o roi cyd-destun i ganlyniadau'r arolwg, a bydd hefyd yn cynnwys argymhellion ar gyfer gweithredu uchelgeisiol i sicrhau rhagor o gynnydd".