Prif Weinidog Cymru'n ystyried pasbort brechu

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywed y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y gallai gael ei berswadio o'r angen i gyflwyno pasbort brechu yng Nghymru.

Mae disgwyl i'r llywodraeth wneud penderfyniad ar y mater yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Dywedodd Mark Drakeford wrth y Senedd ei fod yn amheus o'r syniad, ond y gallai gael ei berswadio pe bai'r manteision iechyd cyhoeddus yn drech na'r anfanteision.

Daeth ei sylwadau wrth i lywodraeth y DU ddweud y byddent yn cadw system pasbortau brechu "wrth gefn" yn Lloegr.

'Pregeth gan lywodraeth y DU'

Yn ôl Mr Drakeford roedd gweinidogion llywodraeth y DU wedi dweud wrtho "mor ddiweddar â diwedd yr wythnos diwethaf" y byddent yn bwrw mlaen gyda'r syniad o dystysgrif brechu.

"Dwi wedi colli cownt o'r nifer o gyfarfodydd yr wyf wedi eistedd drwyddynt gyda gweinidogion y DU lle maen nhw wedi rhoi pregeth i mi am yr angen i gael tystysgrifau brechu," meddai.

"Bob tro yr wyf wedi sôn am y materion moesegol, cyfreithiol ac ymarferol, rwyf wedi cael fy nhrin fel pe baen nhw'n faterion na ddylai amharu ar y ffordd angenrheidiol hon o weithredu."

Yn Yr Alban bydd gofyn i bobl brofi eu bod wedi cael eu brechu'n llawn cyn y gallant fynd i mewn i glybiau nos a nifer o ddigwyddiadau mawr o 1 Hydref ymlaen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dywed Mark Drakeford ei fod yn amheus o'r syniad o basport Covid, ond gallai gael ei berswadio gan unrhyw dystiolaeth o'r manteision iechyd cyhoeddus

Yn ystod sesiwn holi wythnosol y prif weinidog yn y Senedd, gofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, sy'n gwrthwynebu pasbortau Covid, am farn Mr Drakeford.

Wrth gael ei bwyso ar y mater, dywedodd Mr Drakeford ei fod yn amheus o'r syniad.

"Nid yw hynny'n golygu na allaf gael fy mherswadio os yw'r dystiolaeth o'r manteision iechyd cyhoeddus ym mis Medi - mewn cyd-destun gwahanol i'r hyn a wynebwyd ym mis Gorffennaf - yn gorbwyso'r anfanteision," meddai.

Dan gynllun gaeaf llywodraeth y DU, bydd angen tystysgrif brechu ar gyfer mynd i glybiau nos a digwyddiadau mawr os yw'r data'n awgrymu bod angen hynny, er mwyn "osgoi pwysau anghynaliadwy ar y GIG".