Agor cartref bad achub yn sgil rhodd o ddau Ferrari

Ffynhonnell y llun, RNLI/Dewi Wyn

Disgrifiad o'r llun, Cadeirydd RNLI Pwllheli, Alan Jones a Charles Denton, mab bedydd Richard Colton wedi dadorchuddiad plac yn yr agoriad swyddogol

Mae cartref newydd bad achub yng Ngwynedd a gafodd ei adeiladu diolch i rodd anarferol wedi cael ei agor yn swyddogol.

Arian yn sgil gwerthu dau gar Ferrari prin a drudfawr wnaeth sicrhau'r adeilad newydd ym Mhwllheli.

Fe werthwyd y ceir clasurol, sy'n dyddio o'r 1960au, mewn ocsiwn gan godi £8.5m i'r RNLI - y rhodd unigol mwyaf erioed i'r sefydliad ei dderbyn.

Cafodd y ceir eu gadael i'r elusen gan ŵr busnes o Northampton, Richard Colton, a fu farw yn 2015 yn 82 oed.

Fe werthodd Ferrari 250 GT SWB coch o1960 am £6.6m a Ferrari 275 GTB/4 o 1967 am £1.93m.

Ffynhonnell y llun, RNLI

Disgrifiad o'r llun, Y ddau Ferrari a gafodd eu gwerthu er budd yr RNLI

Cafodd rhywfaint o'r arian hwnnw ei wario ar godi adeilad newydd ym Mhwllheli gan fod yr hen gwt blaenorol yn rhy fach i ddal cwch newydd dosbarth Shannon.

Cafodd £100,000 ei godi hefyd gan gronfa gymunedol.

Cafodd yr adeilad ei agor yn swyddogol gan fab bedydd Richard Colton, Charles Denton, sydd hefyd yn ysgutor ei ystâd.

Roedd yr agoriad swyddogol dros y penwythnos yn gyfle hefyd i enwi a chysegru'r bad achub newydd a nodi system lansio ac adfer newydd.

Ffynhonnell y llun, RNLI/The Don Photography

Disgrifiad o'r llun, Rhai o aelodau criw bad achub Pwllheli o flaen y cwch a'r adeilad newydd

Smith Brothers yw enw'r cwch a gafodd ei ariannu gan Roger Smith, hwyliwr brwd o Sir Stafford.

"Er nad ydw i erioed wedi gorfod galw amdanyn nhw am help yn bersonol, rydw i wedi bod yn rhannu o dimau sydd wedi helpu cychod hwyliau oedd yn eu tro wedi eu trosglwyddo i'r RNLI," meddai.

"Mae bywyd wedi bod yn garedig iawn i mi, ac mae'r RNLI wedi cytuno imi ariannu bad achub Shannon bob tywydd ar gyfer Pwllheli.

"Mwyaf ydw i'n dod i nabod pobl sy'n codi arian i'r RNLI a'r criwiau gwirfoddol, mwyaf rydw i'n eu hedmygu."

Dywedodd cadeirydd Grŵp Rheoli Bad Achub RNLI Pwllheli, Alan Jones bod hi'n "ddiwrnod balch i bawb yn RNLI Pwllheli ac yn ddechrau pennod newydd yn hanes yr orsaf dros 130 o flynyddoedd".

Ychwanegodd eu bod yn "diolch pawb sydd wedi cefnogi Bad Achub Pwllheli ac ein helpu i gyrraedd ble rydan ni heddiw, a sicrhau bod ein criwiau gwirfoddol yma i achub bywydau am lawer o flynyddoedd i ddod."