Cerbydau trydan yn 'peryglu bywydau' pobl ddall

  • Awdur, Dafydd Gwynn & Rhiannon Wilkins
  • Swydd, Gohebydd Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae distawrwydd cerbydau trydan a hybrid yn peryglu bywydau pobl sydd â nam ar y golwg.

Dyna'r rhybudd gan elusennau, sy'n dweud fod angen tynhau'r rheolau llawer ymhellach.

Mae Elin Owen o Ynys Môn yn un sy'n poeni'n fawr am y sefyllfa, wrth i'r cerbydau yma ddod yn fwy cyffredin.

Mae yna achosion wedi bod lle mae pobl sy'n pasio wedi atal Elin a'i chi tywys, Georgie, rhag camu i'r ffordd, ar yr eiliad olaf.

"Does gen i ddim syniad fod y car yno, felly i fi mae'n ddistaw a does yna ddim byd yna," meddai. "Ond mewn gwirionedd mae yna gar yn dod.

"Fe allai hynny achosi damwain ddifrifol gan fod person dall yn gorfod dibynnu ar sŵn.

"Dwi wedi bod mewn sefyllfaoedd pan dwi bron â chroesi'r ffordd. Dwi ddim yn meddwl fod pobl yn sylweddoli goblygiadau defnyddio'r cerbydau yma."

Botwm sŵn injan

Gydag elusennau'n dweud ei bod hi'n mynd yn gynyddol anodd i bobl ddall a rhannol-ddall groesi'r ffordd, mae Andrea Gordon o Guide Dogs Cymru yn mynnu fod "angen y sŵn".

"Dychmygwch groesi'r ffordd yn gwisgo mwgwd dros eich llygaid," meddai.

"Efallai y byddai hynny yn gwneud i chi ailfeddwl."

Yn berchennog car trydan mae Richard Wyn Huws yn llawn sylweddoli'r peryglon, ac yn llawn cydymdeimlad.

Mae'n "hen bryd", meddai, i'r diwydiant edrych ar wella diogelwch, ac mae yna newidiadau diweddar.

Disgrifiad o'r llun, Mae Richard Huws yn gyrru car trydan ac o blaid newidiadau i wella diogelwch

"Mae yna gyfraith newydd ei chyflwyno rŵan fis Gorffennaf yn dweud wrth y cwmnïau mawr, os ydy'r car yn teithio o dan 12.4mya, yna mi fydd raid iddo fo wneud sŵn yn awtomatig," meddai.

"Dwi wedi trio ambell gar yn ddiweddar a mae yna fotwm lle gallwch chi ei gadw fo'n ddistaw, neu mae yna fotwm sy'n rhoi sŵn injan.

"Mae yna rai sy'n cynnig cyfle i gyfansoddi eich sŵn eich hyn. Fel yna mae pethau yn symud ymlaen."

Ond dydy'r newidiadau ddim yn ddigon yn ôl RNIB Cymru a Guide Dogs Cymru, elusennau sydd wedi tynnu sylw at y peryglon ers blynyddoedd.

Mae Elin Owen yn cytuno. "Dio'n da i ddim byd i gael y sŵn ar y ceir sy'n teithio'n arafach ond ddim ar y ceir sy'n teithio'n gynt," meddai.

"Ac er fod y rheolau newydd yn dod i fewn mae yna opsiwn i'r dreifar roi pausear y sŵn, felly dwi ddim yn gweld sut all hyn ddatrys y broblem.

"Hefyd, tydyn nhw ddim yn gorfod rhoi sŵn ar feiciau modur trydan neu e-scooters. Mae yna geir hen ar y lonydd hefyd lle da chi ddim yn gallu ffitio'r sŵn."

Yn ôl Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU fe fydd y rheolau yn newid ymhellach i atal cwmnïau ceir rhag gosod y botwm sy'n tawelu'r sŵn.

Fe fydd pob cerbyd trydan a hybrid newydd, meddan nhw, yn gorfod cydymffurfio â'r rheol newydd yma o 1 Medi 2023.

Ond mae dwy flynedd yn gyfnod rhy hir i aros yn ôl Ansley Workman, cyfarwyddwr RNIB Cymru.

"Yn ystod yr amser yna fe fydd pobl sydd â nam ar ei golwg mewn perygl," dywedodd.

"'Da ni wedi clywed am gymaint o achosion erbyn hyn o bobl yn camu allan i'r ffordd ac yn cael eu taro gan geir, am nad ydyn nhw yn eu gweld yn dod."