Caniatáu profion teithio preifat mewn rhai achosion

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Dafydd Sion o Gaerdydd wedi trefnu hedfan i Mallorca yr wythnos nesaf

Mae modd i deithwyr ddefnyddio profion Covid preifat os nag yw'n bosib cael profion sydd wedi eu cymeradwyo mewn pryd, medd Llywodraeth Cymru.

Daw'r penderfyniad wedi i un teithiwr o Gaerdydd dreulio oriau yn ceisio cael y prawf angenrheidiol.

Mae Dafydd Sion wedi trefnu hedfan i Sbaen wythnos nesaf ac mae'n poeni na fydd hi'n bosib iddo gael y prawf sydd wedi'i gymeradwyo mewn pryd er ei fod wedi treulio oriau ar-lein ac ar y ffôn gyda'r asiantaeth, CTM.

O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fydd yn rhaid iddo dalu y ddirwy o £1,000 am ddefnyddio y prawf PCR anghywir.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru na fyddai teithwyr sy'n defnyddio profion eraill yn cael eu cosbi "os yw materion cysylltiedig â'r system yn ei gwneud hi'n amhosib bwcio prawf pan mae'n rhaid teithio ar frys".

Dywedodd cwmni CTM fod "canran fach" o archebion yn cael eu gwrthod am nifer o resymau, gan gynnwys manylion anghywir yn cael eu cyflwyno wrth archebu neu arian annigonol.

Cymru yw'r unig wlad yn y DU sy'n gorchymyn bod y rhai sydd wedi teithio dramor yn defnyddio profion PCR y GIG ar yr ail ddiwrnod wedi dychwelyd - a'r wythfed os nad ydynt wedi cael eu brechu.

Mae'r profion yn costio £68 ond dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn adolygu'r polisi.

Dywedodd Mr Sion ei fod wedi trefnu hedfan i Mallorca yr wythnos nesaf a'i fod wedi methu bump gwaith wrth geisio prynu profion PCR sy'n cael eu hargymell drwy gwmni CTM.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Mae profion PCR y Gwasanaeth Iechyd yn costio £68 yr un

"Rwy' wedi bod yn ceisio prynu'r profion yn ystod y tridiau diwethaf ond yn syth wedi i fi gael cadarnhad mae'r profion yn cael eu canslo," meddai.

"Rwy' wedi siarad â'r tîm gwasanaethau i gwsmeriaid am dros deirawr yn ystod y tridiau diwethaf a chyrraedd unlle."

"Yn ystod un galwad 20 munud gyda CTM gofynnwyd i fi e-bostio manylion personol, manylion pasport a manylion banc fel eu bod yn gallu prosesu'r archeb ond fe wrthodais i oherwydd rheolau diogelu data."

"Rwy'n meddwl ei bod yn ofnadwy bod Llywodraeth Cymru ond yn derbyn profion gan gwmni sy'n methu eich helpu," ychwanegodd.

'Angen rheswm penodol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r cytundeb yn cael ei weithredu gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ran pedair gwlad y DU. Rydym wedi cyfeirio'r pryderon at yr adran."

Gan gyfeirio at achos Mr Sion ychwanegodd llefarydd: "Mae adran yn ein rheoliadau sy'n nodi nad yw person sydd wedi methu bwcio prawf GIG am resymau penodol yn cyflawni trosedd.

"Mae methu bwcio prawf oherwydd rhesymau cysylltiedig â'r system tra'n gorfod teithio'n fuan yn rheswm penodol."

Dywedodd llefarydd ar ran CTM: "Er nad ydym yn gwneud sylwadau ar achosion unigol, mae CTM yn llwyddo i brosesu miloedd o archebion bob dydd ar gyfer cwarantîn gwestai a chitiau prawf Covid-19.

"Mae canran fach o archebion un cael eu gwrthod am nifer o resymau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i fanylion anghywir yn cael eu cyflwyno wrth archebu, neu arian annigonol, sy'n arwain at daliadau'n cael eu gwrthod."