Â鶹ԼÅÄ

Rodon yn ôl ond Ramsey dal allan yn erbyn Estonia

  • Cyhoeddwyd
Aaron Ramsey a Joe RodonFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Cymru wedi ychwanegu amddiffynnwr Tottenham, Joe Rodon i'r garfan ar gyfer gêm yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022.

Roedd Rodon yn absennol o'r fuddugoliaeth yn erbyn Belarws yn Rwsia brynhawn Sul, yn dilyn anaf sydd wedi ei atal rhag chwarae i'w glwb na'i wlad y tymor hwn.

Ond ni fydd Aaron Ramsey yn rhan o'r garfan pan fydd Cymru'n wynebu Estonia yng Nghaerdydd nos Fercher, gan fod chwaraewr canol cae Juventus heb wella o anaf i'r glun.

Bydd pedwar yn rhagor o'r 13 o chwaraewyr oedd yn absennol dros y penwythnos yn rhan o'r garfan.

Bu'n rhaid i Ethan Ampadu, Tyler Roberts a Brandon Cooper golli'r gêm yn Kazan ddydd Sul oherwydd trafferthion fisa.

Mae Harry Wilson ar gael unwaith yn rhagor ar ôl iddo gael ei wahardd am un gêm yn dilyn ei gerdyn coch yn erbyn Denmarc yn Euro 2020.