Asado: Dod â'r arfer Archentaidd o goginio cig i Gaernarfon

Disgrifiad o'r fideo, Gwyliwch Billy Hughes a Michael Downey yn sgwrsio am gynnal 'Asado'

Bryn Fôn a'r Band sy'n canu'r geiriau "Dawnsio yn Dolavon, daeth Cofi o Gaernarfon, a dweud â llaw ar ei galon, Asado ar y paith", yn y gân Asado ar y paith.

Bellach, mae chwedl Bryn Fôn wedi dod yn wir.

Yn 2019 symudodd Michael Downey, athro o Gaernarfon i'r Wladfa er mwyn dysgu yn Ysgol y Gaiman a hyfforddi rygbi yng nghlwb Y Ddraig Goch.

Yn ystod ei gyfnod yno daeth i ddysgu am ddiwylliant Asado yr Ariannin; dull o goginio cig o flaen tân agored mewn nosweithiau cymdeithasol.

Diolch i'w ffrind a'i 'Athro Asado', Billy Hughes, Archentwr sy'n byw yn y Gaiman, mae Michael yn cael blas ar wneud Asado i'w deulu a'i ffrindiau nôl yng Nghymru.

A hithau'n wythnos caru cig oen yng Nghymru rhwng 1-7 Medi 2021, gwyliwch Billy a Michael yn trafod coginio cig oen trwy ddull Asado.

Hefyd o ddiddordeb: