Â鶹ԼÅÄ

Ardaloedd yn 'gwegian dan bwysau ymwelwyr'

  • Cyhoeddwyd
Pier Biwmares
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pier Biwmares wedi gweld nifer o ymwelwyr yn ddiweddar

Wrth i'r gwyliau haf ddirwyn i ben, mae 'na rybudd bod angen ailedrych ar y model twristiaeth yn llwyr yng Nghymru ar ôl un o'r cyfnodau prysuraf erioed i sawl ardal.

Er yn hwb amlwg i fusnesau, mae'r cynnydd mewn ymwelwyr wedi rhoi straen ar adnoddau a chymunedau, ac mae galw rŵan am fuddsoddi mwy mewn isadeiledd.

Un o'r ardaloedd sydd wedi denu'r torfeydd mwyaf ydy Ynys Môn.

Mae'r gogledd yn hawlio lle ar frig rhestr o'r cyrchfannau mwyaf poblogaidd ar gyfer gwyliau eleni.

Mae busnesau mewn llefydd fel Biwmares yn sicr wedi elwa o'r ffaith nad ydy cymaint wedi gallu mynd dramor.

Ond tybed sut fydd hi pan fydd gwyliau tramor yn ôl ar yr agenda o ddifri?

Mae Nia Rhys Jones, o Gymdeithas Twristiaeth Ynys Môn, yn ffyddiog y bydd yr ymwelwyr yn parhau i ddod.

"Dwi'n meddwl bod y term 'staycation' yma i aros," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nia Rhys Jones ei bod yn disgwyl i niferoedd uchel o ymwelwyr barhau

"Wrth gwrs mi rydan ni wedi denu ymwelwyr fydd â'u dewis cynta'r flwyddyn nesa' i fynd dramor.

"Ond dwi'n credu bydd gwyliau tramor yn ofnadwy o gostus y flwyddyn nesa'.

"Dwi'n siŵr bod ni wedi meithrin pobl newydd fydd yn driw gobeithio i'r ardaloedd maen nhw wedi ymweld â nhw am y tro cynta' eleni," ychwanegodd.

'Dilema trwy'r pandemig'

Er yn amlwg yn croesawu'r hwb i fusnesau'r ardal, mae Nia Rhys Jones hefyd yn sylweddoli bod cael cydbwysedd rhwng y budd economaidd a diogelu cymunedau yn heriol.

"Mae'n ddilema sydd wedi bod hefo ni fel cymdeithas drwy'r pandemig, sef cadw'r cymunedau yn saff fwy na dim," dywedodd.

"Mae 'na waith i bawb ddod at ei gilydd - y cyngor a rhanddeiliaid eraill - a threfnu bod digwyddiadau'n digwydd mewn gwahanol lefydd ac ar wahanol ddyddiau.

"Hefyd bod ni'n edrych ar lle mae'r isadeiledd - er enghraifft, traethau dipyn bach distawach, lle mae 'na feysydd parcio distawach, a thrio annog a marchnata rheiny mewn ffyrdd dipyn yn wahanol," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae lleoliadau fel Yr Wyddfa yn dod yn gynyddol boblogaidd, gyda phobl yn ciwio ar y copa

Wrth i boblogaeth gogledd Cymru chwyddo dros yr haf, mae'r straen wedi bod yn amlwg ar yr awdurdodau.

Esboniodd Arolygydd Trystan Bevan o Heddlu'r Gogledd: "Mae'r ardaloedd dwi'n gyfrifol amdanyn nhw wedi bod yn brysur ofnadwy ac mae nifer y bobl sy' wedi dod yma i ogledd Cymru'n uwch na 'da ni wedi'i weld o'r blaen.

"'Da ni 'di gweld problemau gwrthgymdeithasol ac mae'r problemau parcio 'da ni 'di gweld mewn llefydd fel Ogwen a Llanberis, lle mae 'na lot o bobl yn dod i'r un lle er mwyn mwynhau eu hunain," dywedodd.

Er mwyn atal golygfeydd tebyg i'r rhai welson ni yn rhannau o Eryri'r llynedd, mae'r Awdurdod Parc Cenedlaethol wedi cyflwyno rhai newidiadau parcio.

Disgrifiad o’r llun,

Mae parcio anghyfreithlon wedi dod yn fwy o broblem yn ardaloedd fel Pen-y-Pass

Ym Mhen-y-Pass, lle mae rhai o lwybrau mwya' poblogaidd Yr Wyddfa yn cychwyn, mae 'na system archebu parcio o flaen llaw erbyn hyn.

Mae'n system gafodd ei threialu'r llynedd ac sydd wedi profi'n llwyddiant eto yr haf yma, yn ôl yr Awdurdod.

'Gwegian o dan bwysau ymwelwyr'

Ond mae pryder am gyfnod anoddach ar y gorwel - a bod angen ailedrych ar y model twristiaeth yng Nghymru drwyddi draw.

"Mae'r flwyddyn yma 'di bod yn wych i fusnesau dwi'n meddwl," meddai Helen Pye, Pennaeth Ymgysylltu Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

"Ond mae'r ardaloedd yn gwegian o dan bwysau ymwelwyr - ac ardaloedd sydd ddim o reidrwydd wedi cael y pwysau 'na o'r blaen."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Pye yn credu bod rhaid ystyried effaith hirdymor cynnydd mewn twristiaeth

Mae Helen Pye yn meddwl bod rhaid paratoi ar gyfer sialensiau'r dyfodol.

"Wrth i ni fynd i mewn i'r gaeaf rŵan mi fydd rhaid i ni feddwl - achos 'da ni'n disgwyl i flwyddyn nesa' fod yn brysur hefyd - ar hyn o bryd, efo'r niferoedd sy'n dod a'r diffyg o ran isadeiledd, mae ganddon ni broblemau mawr," meddai.

"Dwi'n meddwl bod ni angen cymryd cam yn ôl a gofyn 'be ydan ni angen allan o dwristiaeth?'

"Mae'n fwy pwysig i bobl bod nhw'n gallu byw yn eu hardal, bod nhw'n gallu mwynhau'r ardal a bod 'na barch tuag at yr ardal mwy na dim byd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Osian Roberts, mae ardaloedd arfordirol ar eu prysuraf ers blynyddoedd

O'r mynydd i'r môr - sydd hefyd wedi denu niferoedd uchel o ymwelwyr a phobl leol, gan gadw rhai fel Osian Roberts, sy'n gwirfoddoli efo'r criw bad achub ym Moelfre ar Ynys Môn, yn hynod brysur.

"'Da ni 'di bod yn cael amryw o alwadau," meddai.

"Yn bendant 'da ni'n gweld mwy o badlfyrddwyr, caiacs, cychod hamdden."

"Dydy o ddim jyst yn waith ar y dŵr chwaith - hefo cerddwyr, pobl yn syrthio oddi ar ddibyn neu rywbeth.

"Dwi'n teimlo bod llefydd fel hyn ar eu prysura' ers tua degawd," ychwanegodd.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn: "Rydym yn gofyn i bob ymwelydd ail-ddarganfod Ynys Môn yn ddiogel dros ŵyl y banc ac yn y dyfodol,

"Mae gennym ni ddyletswydd i barchu ac edrych ar ôl ein gilydd."