Galw am ymchwilio i gost profion er mwyn teithio o Gymru

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu fod yn rhaid i bawb sy'n dychwelyd o dramor ddefnyddio prawf PCR swyddogol y Gwasanaeth Iechyd
  • Awdur, Catrin Haf Jones
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae Dirprwy Weinidog Swyddfa Cymru wedi galw am ymchwiliad i'r gost o gael prawf coronafeirws er mwyn teithio dramor o Gymru, gan gyhuddo Llywodraeth Cymru o "wneud bywyd yn anodd" i deithwyr.

Mae Aelod Ceidwadol Mynwy, David TC Davies, wedi ysgrifennu at yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i ofyn iddyn nhw ymchwilio i benderfyniad Llywodraeth Cymru bod yn rhaid i deithwyr ddefnyddio prawf y Gwasanaeth Iechyd ar ôl dychwelyd adre.

Mae Mr Davies yn dweud y dylai fod hawl gan bobl i "siopa o gwmpas" am y fargen orau fel yn Lloegr - lle mae dros 400 o gwmnïau preifat yn gymwys i gynnig y profion i deithwyr.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae defnyddio prawf y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn golygu bod unrhyw amrywiolion niweidiol yn cael eu hadnabod cyn gynted â phosib.

Mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd eisoes wedi cyhoeddi adolygiad i'r system profion Covid ar gyfer teithwyr rhyngwladol wedi cwynion am bris a pherfformiad rhai darparwyr preifat yn Lloegr.

Ond mae Mr Davies bellach wedi ysgrifennu at yr awdurdod yn gofyn iddyn nhw hefyd "edrych yn ofalus iawn ar gost profion PCR yng Nghymru".

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd David TC Davies nad oes gan weinidogion Cymru'r hawl i'w gwneud yn anodd i bobl deithio ar eu gwyliau

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu fod yn rhaid i bawb sy'n dychwelyd o dramor ddefnyddio prawf PCR swyddogol y Gwasanaeth Iechyd, sydd ar gael trwy fynd i wefan Llywodraeth Cymru.

Mae pris y prawf hwnnw yn cael ei osod gan Lywodraeth San Steffan, a bellach yn costio £68 am bob prawf.

Ond yn Lloegr gall pobl ddewis o blith dros 400 o ddarparwyr, rhai yn cynnig y profion am lai na £50 y prawf.

Fe wrthododd Prif Weinidog Cymru alwadau i newid polisi Cymru fis diwetha'.

Mae gweinidogion Cymru yn annog pobl i beidio â theithio dramor eleni, ac ym mis Gorffennaf fe ddywedodd Mark Drakeford na fyddai'n "dargyfeirio egni fy swyddogion er mwyn ei gwneud hi'n haws i bobl wneud rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn credu sy'n annoeth."

'Archebu'r profion anghywir'

Yn ôl Suzanne Cumpston o asiantaeth deithio Sam Smith Travel yn Y Bontfaen, mae'r gwahaniaethau wedi creu dryswch ymhlith teithwyr, a rhai wedi talu am y profion anghywir.

"Ry'n ni wedi cael pobl yn dod i mewn i'r swyddfa am gyngor, sydd eisoes wedi bwcio eu gwyliau trwy rywun arall, ac maen nhw wedi archebu'r profion anghywir," meddai.

"Maen nhw wedi bod ar wefannau yn cymharu pris profion Covid ar gyfer teithio tramor o'r Deyrnas Unedig, ac wedi archebu'r prawf ro'n nhw'n meddwl oedd y rhata' a'r gorau allan yno.

"Mae 'na ddryswch yno heb os, ac fe fyddai 'nghydweithwyr i gyd - ac yn bwysicach oll y cyhoedd - yn hoffi gweld pedair gwlad y Deyrnas Unedig yn dilyn yr un polisi."

Disgrifiad o'r llun, Mae Suzanne Cumpston yn mynnu fod dryswch ynglŷn â'r profion

Mae Richard Cobourne, sy'n byw ger Tyndyrn yn Sir Fynwy, yn teithio i Ynysoedd Dedwydd yn rheolaidd er mwyn rhedeg ei fusnes rhentu filas, ac mae'n cefnogi'r galwadau am fwy o ddewis i deithwyr yng Nghymru.

"Mae'n ymddangos i fi fod Llywodraeth Cymru yn gosod rheolau fan hyn sy'n ei gwneud hi'n anodd iawn i deithwyr - ac nid i deithwyr gwyliau tramor yn unig, ond teithwyr busnes hefyd," meddai.

"Y filas gwyliau ry'n ni'n eu rhentu allan yw'n incwm a'n pensiwn ni.

"Os y'ch chi'n teithio milltir a hanner y ffordd yna," meddai gan bwyntio tuag at y ffin a Lloegr, "mae dewis o 422 o ddarparwyr profion.

"Ond mae hynny yn anghyfreithlon yng Nghymru, lle fyddwch chi'n wynebu dirwy o £1,000."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Richard Cobourne fod Llywodraeth Cymru yn "ei gwneud hi'n anodd iawn i deithwyr"

Ond mae Lloegr wedi cael eu problemau eu hunain a'r system brofi yno.

Dydd Llun fe fu'n rhaid i Lywodraeth San Steffan dynnu rhai darparwyr oddi ar eu rhestr swyddogol yn sgil "ymddygiad cowboi" rhai cwmnïau oedd yn camwerthu profion.

Mae David TC Davies yn croesawu'r camau hyn yn Lloegr, ond yn dweud bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu er budd dewis y cwsmer nawr hefyd.

"Dylai Llywodraeth Cymru sylweddoli fod gan bobl yr hawl i fynd ar wyliau ac nad oes ganddyn nhw'r hawl i drio gwneud hynny'n anodd iddyn nhw," meddai.

"Fe ddylen nhw ganiatáu i bobl gael yn union yr un mynediad at ddarparwyr preifat rhatach, fel y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yn Lloegr."

'Adnabod amrywiolion niweidiol'

Yn ôl llefarydd ar ran yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd maen nhw'n "cadarnhau ein bod ni wedi derbyn y llythyr gan David TC Davies AS.

"Fel rhan o'n hymchwiliad rydyn ni'n ystyried tystiolaeth o bob rhan o'r Deyrnas Unedig ynglŷn â phroblemau gyda'r farchnad mewn profion PCR."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod hi'n "allweddol fod unrhyw achosion positif ac unrhyw amrywiolion niweidiol yn cael eu hadnabod cyn gynted â phosib".

"Am y rheswm hynny, am y tro, rydyn ni'n ei gwneud hi'n ofynnol bod yr holl brofion yn cael eu darparu gan y Gwasanaeth Iechyd, fel ein bod ni'n gallu adnabod unrhyw achosion positif cyn gynted â phosib trwy'n system Profi, Olrhain, Diogelu ni."