Â鶹ԼÅÄ

YesCymru: Pleidlais o ddiffyg hyder yn y pwyllgor

  • Cyhoeddwyd
Torfeydd ym Merthyr Tudful
Disgrifiad o’r llun,

Torfeydd ym Merthyr Tudful yn ystod un o ralïau annibyniaeth YesCymru

Mae rhai o gynrychiolwyr YesCymru wedi galw am gyfarfod cyffredinol neilltuol yn ogystal â phleidlais o ddiffyg hyder yn y pwyllgor canolog, medd datganiad gan grwpiau'r mudiad.

Daw'r alwad yn dilyn "pryder cynyddol ymhlith grwpiau rhanbarthol ac aelodaeth ehangach y mudiad am y trywydd y bu'r pwyllgor canolog yn arwain YesCymru yn ddiweddar".

Cafodd cyfarfod o bwyllgor cenedlaethol YesCymru ei gynnal ddydd Sadwrn, 31 Gorffennaf, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r pwyllgor canolog yn ogystal â chynrychiolwyr o grwpiau rhanbarthol cyfansoddedig.

Mae aelodaeth y mudiad annibyniaeth wedi cynyddu oddeutu 15,000 dros y 18 mis diwethaf, ond dywedodd Sarah Rees, cadeirydd dros dro YesCymru, bod angen newidiadau strwythurol ar y corff.

Dywedodd ar raglen Politics Wales y Â鶹ԼÅÄ fis diwethaf: "Rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n dibynnu gormod ar wirfoddolwyr, a dyna lle mae'n rhaid i ni newid," meddai.

"Felly'r hyn rydyn ni'n ei wneud yw siarad â'n holl aelodaeth iddyn nhw arwain y ffordd o ran sut rydyn ni'n symud yr aelodaeth ymlaen, a sut rydyn ni'n gwneud y newidiadau y mae'n rhaid i ni eu gwneud i adlewyrchu maint y sefydliad erbyn hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Sarah Rees ydy'r cadeirydd dros dro yn dilyn ymddiswyddiad Siôn Jobbins

'Cyfle cyffrous i ail-osod'

Cafodd yr alwad am gyfarfod cyffredinol neilltuol ei dderbyn gan y pwyllgor canolog, ac fe bleidleisiodd y grwpiau dros y bleidlais o ddiffyg hyder yn y pwyllgor canolog presennol.

Bydd YesCymru yn cynnal cyfarfod cyffredinol neilltuol yn yr wythnosau nesaf i ethol pwyllgor canolog newydd, gan geisio denu ystod eang o ymgeiswyr i adlewyrchu amrywiaeth eang o aelodau'r mudiad.

Bydd mesurau trylwyr yn cael eu cyflwyno i sicrhau fod cymaint ag sydd yn bosibl o'r 18,500 o aelodau yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y pleidleisio.

Dywedodd YesCymru: "Ystyriwn y dyfodol agos fel cyfle cyffrous i ail-osod ac i ganolbwyntio unwaith eto ar neges ganolog YesCymru, sef annibyniaeth i Gymru.

"Mae YesCymru yn edrych ymlaen i'r bennod nesaf yn ei hanes, ac i adeiladu ymhellach ar y don enfawr o gefnogaeth sydd wedi adeiladu yn y blynyddoedd diweddar, ac i atseinio yr alwad i sefydlu Cymru fel gwlad annibynnol a chynhwysol i'w thrigolion i gyd."

Pynciau cysylltiedig