Disgwyl penderfyniad ar lacio rheolau Covid-19 Cymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae caffis a thai bwyta ar agor yng Nghymru ond mae cyfyngiadau'n parhau

Mae disgwyl cyhoeddiad yn ddiweddarach am y cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru.

Bydd gweinidogion yn trafod fore Mercher cyn i'r prif weinidog wneud cyhoeddiad.

Ond mae Mark Drakeford eisoes wedi dweud na fydd yr holl gyfyngiadau'n cael eu llacio ar unwaith.

Fe fydd rhaid gwisgo mygydau ar drafnidiaeth cyhoeddus, er enghraifft.

Y disgwyl yw na fydd Cymru yn symud mor gyflym â Llywodraeth y DU, gyda mwyafrif y rheolau'n cael eu dileu yn Lloegr o 19 Gorffennaf.

Mae Llywodraeth yr Alban yn gobeithio llacio'r rhan fwyaf o gyfyngiadau ar 9 Awst, ond bydd y rheol mygydau yn parhau yno hefyd am beth amser.

Er bod nifer yr achosion yng Nghymru'n cynyddu, mae Llywodraeth Cymru o'r farn fod y rhaglen frechu wedi gwanhau'r cysylltiad rhwng cael yr haint a chael salwch difrifol neu farw.

Ddydd Mercher mae disgwyl i Mr Drakeford ddweud a fydd Cymru'n symud i 'Lefel Rhybudd Un' gan lacio rhai cyfyngiadau gafodd eu gohirio oherwydd y cynnydd mewn achosion.

Mae disgwyl iddo hefyd gyhoeddi cynllun rheoli coronafeirws a fydd yn amlinellu 'Lefel Rhybudd Sero' a ddaw gyda llai o gyfyngiadau cyfreithiol.

Ond does dim disgwyl i hynny gael ei weithredu ar unwaith, gyda'r adolygiad nesaf i ddigwydd yn gynnar ym mis Awst.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r sector lletygarwch wedi galw am lacio rheolau pellter cymdeithasol

Daeth awgrym gan weinidogion y bydd Cymru'n symud tuag at "fwy o normalrwydd" ond ddydd Mawrth dywedodd Mr Drakeford nad yw am weld rheolau'n cael eu dileu yn llwyr.

"Nid yw pobl Cymru yn awchu am rhyw fath o ddiwrnod rhyddid," meddai.

'Angen trafod brechu plant'

Ar raglen Dros Frecwast fore Mercher dywedodd y meddyg Mirain Rhys mai "pwyll piau hi".

"Rydyn ni yn y drydedd don ac mae'n holl bwysig i fod yn bwyllog gan bod y niferoedd yn mynd i waethygu cyn gwella.

"Mae'n bwysig cofio bod y rhai sy'n cael eu heintio yn cael salwch ysgafn - ond bydd rhai o'r rheina yn mynd i gael Covid hir ac felly mae'n rhaid bod yn bwyllog.

"Mi fydden i yn croesawu trafodaeth ar sut mae cyfnerthu a gwthio'r ymgyrch i frechu pobl ifanc dros 18 - gan mai'r grŵp yma rhwng 18 a 30 sy'n gyrru cyfraddau uchel o heintiau yma yng Nghymru ar hyn o bryd.

"Efallai hefyd y dylid cael trafodaeth ar ymestyn y cynllun brechu i blant - yn UDA mae nhw'n brechu plant rhwng 12 a 15 oed."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae plant rhwng 12 a 15 yn cael eu brechu yn yr Unol Daleithiau

Erbyn dydd Mawrth roedd graddfa heintio Cymru yn 138.2 am bob 100,000 o'r boblogaeth, gyda 623 o brofion positif bob dydd ar gyfartaledd.

Mae hynny'n cymharu gyda 466 y dydd wythnos yn ôl a thua 77 y dydd fis yn ôl.

Ond dywedodd swyddogion fod y cysylltiad rhwng achosion o Covid a salwch difrifol neu farwolaeth wedi gwanhau.

Erbyn dechrau Gorffennaf dim ond 1.1% o achosion o Covid oedd wedi gorfod mynd i'r ysbyty.

'Angen cael gwared â rheol 2m'

Er bod y mwyafrif o fusnesau bellach yn medru masnachu, maen nhw'n gorfod gwneud hynny o dan reolau pellter cymdeithasol.

Mae tafarnau, caffis a thai bwyta felly wedi bod yn lobïo i ddileu'r rheolau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd cael gwared â'r rheol 2m o gymorth i fusnesau, medd llywydd Siambr Fasnach de Cymru

Ar raglen Dros Frecwast dywedodd llywydd Siambr Fasnach de Cymru, Harri Lloyd Davies:

"Mae'n bwysig cofio mai blaenoriaeth perchnogion busnes yw cadw staff a chwsmeriaid yn ddiogel ar ddiwedd y dydd. Y peth mwyaf fi'n credu bydd busnesau eisiau yw symud y rheol dau fetr achos 'na beth sydd wedi creu y problemau mwyaf iddyn nhw dros y flwyddyn ddiwethaf.

"Ar ddiwedd y dydd fi'n gobeithio bod yr amser wedi dod i roi cyfrifoldeb i unigolion ar beth sydd yn saff.

"Dyna pam bod y bobl busnes, dwi wedi siarad gyda nhw, yn eitha hapus i weld rhai rheolau yn aros mewn lle - pethe fel masgiau. Dyw rheina ddim yn broblem fawr ar y cyfan - fi'n credu bod pobl yn eitha hapus gweld hwnna yn parhau.

"Mae rheol dau fetr yn golygu bod digwyddiadau bach fel park runs ddim yn cael eu cynnal yng Nghymru - mae hynna yn beth da i iechyd pobl ond mae'n helpu busnesau bach fel y caffis lleol hefyd."

Mae cyfyngiad cyfreithiol hefyd ar faint o bobl sy'n medru cwrdd y tu allan yng Nghymru, ac mae'r nifer sy'n cael cwrdd o dan do wedi ei gyfyngu i rai sydd mewn grwpiau o aelwydydd estynedig.