'Angen plannu 86m o goed i gwrdd â tharged carbon'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae 19.4% o dir Cymru wedi'i orchuddio â choedwigoedd a choed

Mae angen i Gymru blannu dros 86 miliwn o goed yn y naw mlynedd nesaf os yw am gyflawni'r nod o fod yn sero net o ran carbon erbyn 2050, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y dirprwy weinidog newid hinsawdd, Lee Waters fod angen plannu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030, a 180,000 hectar erbyn 2050.

Mae hynny'n cyfateb i blannu o leiaf 5,000 hectar y flwyddyn, ond llynedd dim ond 290 hectar gafodd ei blannu yng Nghymru, ac nid oes dros 2,000 o hectarau wedi'u plannu mewn unrhyw flwyddyn ers 1975.

Ond mae rhybudd bod y system sydd mewn lle ar hyn o bryd i geisio plannu coed yn "llanast".

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod fod y canllawiau presennol yn "gymhleth ac yn gyfyngus".

Disgrifiad o'r llun, Mae Lee Waters wedi addo canllawiau "newydd, symlach" ar blannu coed

Dywedodd Mr Waters y byddai plannu mwy o goed yn hwb i economi Cymru, gydag addewid ym maniffesto Llafur Cymru eleni yn addo creu "economi bren".

Ar hyn o bryd mae 80% o'r pren sy'n cael ei ddefnyddio yn y DU yn cael ei fewnforio.

Ar ben hynny, dim ond 4% o'r pren sy'n deillio o Gymru sydd o'r safon i allu ei ddefnyddio gan y diwydiant adeiladu, ac mae mwyafrif pren Cymru yn cael ei ddefnyddio mewn marchnadoedd rhatach, fel ffensys neu ddeciau gardd.

"Rhaid gweithredu os ydym am ysgwyddo'n hymrwymiad i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd," meddai'r dirprwy weinidog.

"Mae plannu mwy o goed yn hanfodol i osgoi newid trychinebus yn yr hinsawdd a gall esgor hefyd ar amrywiaeth eang o fanteision i Gymru, gan gynnwys creu swyddi 'gwyrdd', helpu i daclo'r argyfwng natur, gwella lles a lleihau problemau llifogydd ac ansawdd aer."

Disgrifiad o'r llun, Ar hyn o bryd mae 80% o'r pren sy'n cael ei ddefnyddio yn y DU yn cael ei fewnforio

Ychwanegodd mai "cymunedau, ffermwyr a pherchenogion tir ym mhob rhan o Gymru" fydd yn rhaid plannu'r rhan fwyaf o'r coetir newydd, nid y llywodraeth.

Mae'r llywodraeth hefyd yn annog pob teulu sydd â gardd i blannu mwy o goed.

Dywedodd Mr Waters hefyd bod y llywodraeth yn cydnabod fod "angen i ni gydweithio'n well â chymunedau a pherchenogion tir sydd am blannu coed ac mae angen i ni ddysgu o arbenigedd cymunedau a pherchnogion tir".

Canllawiau 'newydd, symlach'

Mae Tasglu Coed wedi bod yn ystyried y rhwystrau allai atal Cymru rhag cyflawni'r nod o blannu cymaint o goed, gan nodi nad yw'r system bresennol yn addas.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo canllawiau "newydd, symlach", ond yn dweud y bydd angen arian gan y sector preifat hefyd i gyflawni'r nod.

Ychwanegodd Mr Waters y bydd gweithgor yn cael ei sefydlu er mwyn sicrhau na fydd buddsoddiad o'r fath yn "amharu ar gymunedau a phatrymau perchenogaeth tir".

Maen nhw hefyd yn cydnabod fod y system gyllid presennol ar gyfer plannu coed "wedi bod yn rhy anghyson ac anodd cael gafael arno" a bod yr holl broses wedi bod yn "rhy araf a biwrocrataidd".

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £17m i blannu coed dros y ddwy flynedd nesaf

Dywedodd Anthony Geddes o gymdeithas goetiroedd ConFor, fu hefyd yn rhan o'r Tasglu Coed, bod system bresennol Llywodraeth Cymru ar gyfer plannu coed yn "llanast".

"Mae ffermwyr a pherchnogion tir eisiau plannu coed yng Nghymru, ac mae arian llywodraeth yno i wneud hynny, ond mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi dangos bod y system yn llanast," meddai.

"Llynedd cafodd llai na 300 hectar o goetir newydd ei blannu yng Nghymru.

"Mae'r mesurau amlinellwyd gan Lee Waters yn gosod y nod o 4,000-5,000 hectar pob blwyddyn, sy'n uchelgeisiol ond cyraeddadwy.

"Mae'r tasglu wedi gweithio'n gyflym, a gyda phwrpas - nawr, o'r diwedd, mae'n amser i droi'r uchelgais yn realiti."

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £17m i blannu coed dros y ddwy flynedd nesaf, a dywed y bydd cyfnod ymgeisio newydd yn dechrau cyn gynted â phosibl er mwyn i fwy allu gwneud cais am arian.