Covid-19: Cofnodi tair marwolaeth arall yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cadarnhawyd tair marwolaeth pellach o ganlyniad i Covid-19 yng Nghymru yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd ar gyfer 48 awr, cofnodwyd 2,053 o achosion o'r haint yn y cyfnod.

Daw hyn a chyfanswm yr achosion i 232,672, a nifer y marwolaethau i 5,589, yn ôl y dull yma o gofnodi.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn berthnasol am y 48 awr hyd at 09:00 fore Llun.

Roedd y gyfradd uchaf o achosion dros y saith diwrnod diwethaf yn Sir Ddinbych gyda 395.0 achos am bob 100,000 o'r boblogaeth.

Mae'r cyfraddau dros 300 yn Wrecsam (329.5) a Chonwy (307.2) hefyd, a dros 200 mewn sawl sir, gan gynnwys Powys, Sir y Fflint, Torfaen a Phen-y-bont ar Ogwr.

Y gyfradd ar draws Cymru ydy 177.3 fesul 100,000 o'r boblogaeth.