Brechu 'wedi gwanhau'r feirws ond heb gael ei wared'

Disgrifiad o'r llun, Dr Gill Richardson a Dr Frank Atherton yn y gynhadledd ddydd Llun

Mae un o brif swyddogion y rhaglen frechu yng Nghymru wedi dweud nad yw'r brechlyn Covid-19 wedi "torri'r cysylltiad" yn llwyr rhwng pobl yn profi'n bositif a mynd i'r ysbyty.

Wrth siarad yng nghynhadledd y llywodraeth, dywedodd Dr Gill Richardson: "Gallwn ddweud yn hyderus bod brechlynnau wedi gwanhau'r cysylltiad rhwng heintiau, salwch difrifol ac ysbytai a marwolaethau.

"Ond dydyn nhw ddim wedi torri'r cyswllt," meddai dirprwy brif swyddog meddygol brechlynnau Cymru.

Daw'r sylwadau wrth i un arbenigwr blaenllaw ar glefydau heintus ddweud ei bod hi'n amser bellach i ddod â chyfyngiadau Covid yng Nghymru i ben.

'Achosi niwed o hyd'

Dywedodd yr epidemiolegydd ymgynghorol Yr Athro John Watkins fod y cyswllt rhwng achosion Covid, niferoedd yn yr ysbyty a marwolaethau "yn bendant" wedi torri bellach.

Ond ni aeth Dr Richardson mor bell â dweud hynny wrth siarad brynhawn Llun.

Pwysleisiodd ei bod yn bwysig cael lefelau uchel o frechu ym mhob grŵp oedran - gyda'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 26% o bobl rhwng 18-39 yng Nghymru heb gael eu brechiad cyntaf eto.

Dywedodd fod yn rhaid i bawb "weithio gyda'i gilydd i gadw coronafeirws dan reolaeth oherwydd gall y feirws hwn achosi niwed o hyd, yn enwedig os yw'r cyfraddau'n codi'n serth iawn, fel rydyn ni'n ei ddisgwyl".

Dywedodd Dr Richardson nad oedd derbyniadau i'r ysbyty ar yr un lefelau ag yr oedden nhw'n ystod y gaeaf.

Ychwanegodd: "Gallwn ddisgwyl i dderbyniadau i'r ysbyty godi, yn enwedig ymhlith pobl sydd heb eu brechu neu'r rhai sydd heb gwblhau eu cwrs.

Disgrifiad o'r llun, Roedd disgwyl yn wreiddiol i Eluned Morgan fod yn y gynhadledd ddydd Llun

"Ers dechrau mis Mai, mae pobl sydd â Covid-19 mewn ysbytai yng Nghymru wedi bod ar eu lefelau isaf ers i'r pandemig ddechrau.

"Bu cynnydd bach yn ystod y dyddiau diwethaf ond mae'n dal i fod ar lefelau isel."

Yn y cyfamser, mae Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan yn hunan-ynysu "ar ôl dod i gysylltiad ag achos positif posib" o'r feirws.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Gallwn gadarnhau bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn hunan-ynysu fel mesur rhagofalus ar ôl dod i gysylltiad ag achos positif posib o coronafeirws."

Cyfradd 'R' uchel

Dywed prif swyddog meddygol Cymru fod cyfradd achosion coronafeirws yn cynyddu ledled y wlad wrth i'r amrywiad Delta "symud yn gyflym trwy ein cymunedau lleol".

Dywedodd Dr Frank Atherton fod achosion yn dyblu bob tua chwe diwrnod a hanner.

"Yr amcangyfrif gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yw bod cyfradd 'R' Cymru rhwng 1.8 ac 1.9," meddai.

"Mae hyn yn golygu bod pob person sydd wedi'i heintio yn mynd ymlaen i heintio bron i ddau berson arall."

Ond ychwanegodd fod llawer llai o heintiau yn y grwpiau oedran hÅ·n yn y drydedd don yma o'r pandemig.

"Mae'n debyg mai rhan fawr o'r rheswm am hyn yw bod brechu yn helpu i atal trosglwyddo a heintio," meddai.