Rali'n galw am fynd i'r afael ag argyfwng tai Cymru

Disgrifiad o'r llun, Cymdeithas yr Iaith oedd trefnwyr y rali ar lan Llyn Celyn
  • Awdur, Sion Pennar
  • Swydd, Gohebydd Â鶹ԼÅÄ Cymru

Daeth tua 1,000 o bobl i lan Llyn Celyn, ger Y Bala ddydd Sadwrn i alw am weithredu ar yr argyfwng tai yng Nghymru.

Wrth annerch y dorf, galwodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatrys y mater yn "annelwig" a "di-uchelgais".

Dywedodd Mabli Siriol bod angen mesurau fel trethi newydd ar ail dai i fynd i'r afael â'r sefyllfa, yn ogystal â Deddf Eiddo i alluogi cap ar niferoedd ail gartrefu a rheoli prisiau.

Yn ôl y llywodraeth, maen nhw'n "gweithio ar gyflymder i weithredu atebion cynaliadwy, i'r hyn sy'n faterion cymhleth".

Yn gynharach yn yr wythnos cyhoeddwyd y bydd cynllun peilot, a allai gynnwys newidiadau i drefniadau trethu a chynllunio, yn cael ei dreialu mewn rhan o Gymru.

Mae'r llywodraeth hefyd yn bwriadu lansio Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg erbyn yr hydref.

Ond yn y rali ar lan y gronfa ddŵr - gafodd ei chreu yn 1965, pan foddwyd pentref Capel Celyn - galwodd Ms Siriol am weithredu ar frys.

"Be' rydyn ni wedi ei gael ganddyn nhw yw ymrwymiadau annelwig a di-uchelgais - rhagor o ymgynghoriadau, rhagor o gynlluniau peilot - fydd yn cymryd blynyddoedd i wneud gwahaniaeth, blynyddoedd sydd ddim gyda ni i wastraffu," meddai.

"'Dyn ni'n galw ar y llywodraeth, fel man cychwyn, i gymryd camau brys, yn cynnwys trethi newydd ar ail dai, twristiaeth ac AirBnB, a buddsoddi'r arian yna yn ein cymunedau lleol i ddod â thai'n ôl mewn i ddwylo cyhoeddus."

Ychwanegodd bod angen Deddf Eiddo, fyddai'n galluogi mesurau eraill fel cap ar nifer ail dai, rheolau ar brisiau a newidiadau i ddiffiniad tai fforddiadwy.

"Mae gynnon ni'r atebion, yr hyn sydd ei angen yw ewyllys gwleidyddol," meddai.

Mae bron i 25,000 o dai wedi eu cofrestru fel ail gartrefi ar gyfer dibenion treth cyngor yng Nghymru, yn ôl ffigyrau swyddogol o fis Ionawr.

Mae dros 5,000 o'r rheiny yng Ngwynedd, a mwy na 4,000 yn Sir Benfro - ond gall y gwir gyfanswm ar draws y wlad fod yn llawer uwch.

'Tegwch wrth wraidd' cynlluniau Llywodraeth Cymru

Ymhlith y siaradwyr yn y rali oedd y canwr Dafydd Iwan, Mabon ap Gwynfor AS a'r cyn-ymgeisydd Llafur lleol, Cian Ireland, a ddywedodd nad yw ei cynlluniau ei blaid yn ddigonol i fynd i'r afael â'r sefyllfa.

Ond yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, mae "tegwch wrth wraidd ein cynlluniau".

"O fewn y ddau fis cyntaf o ffurfio Llywodraeth newydd, rydym wedi gosod cynlluniau i ddechrau mynd i'r afael ag effaith ail gartrefi a chartrefi gwyliau mewn rhai cymunedau ac i ddiogelu cymunedau Cymraeg.

"Rydym yn ymgysylltu â'n partneriaid, gan gynnwys pobl yn y cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf, dros yr haf a byddwn yn lansio ein Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg yn yr hydref.

"Rydym yn gweithio ar gyflymder i weithredu atebion cynaliadwy, i'r hyn sy'n faterion cymhleth. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i adeiladu 20,000 o gartrefi newydd, carbon isel ar gyfer rhent cymdeithasol yn ystod y tymor Senedd hwn."