Gweinidog wedi cael 'llond bol' ar sticeri annibyniaeth

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Yn ôl David TC Davies mae'r sticeri yn cael eu gosod ymhobman heb ganiatâd

Mae gweinidog yn Swyddfa Cymru wedi dweud ei fod wedi cael "llond bol" ar weld sticeri ymgyrch annibyniaeth YesCymru yn cael eu gosod yn "anghyfreithlon".

Mae'r Is-ysgrifennydd Gwladol ac AS Ceidwadol Mynwy, David TC Davies wedi amddiffyn cynllun i roi baner Jac yr Undeb wyth llawr o uchder ar gornel adeilad newydd Llywodraeth y DU yng nghanol Caerdydd.

Mae deiseb gan YesCymru yn gwrthwynebu'r faner wedi denu dros 16,000 o lofnodion.

Ond mae Mr Davies yn honni bod y sefydliad yn gosod sticeri yn anghyfreithlon ymhobman heb ganiatâd cynllunio.

Disgrifiad o'r llun, Bydd yr arwydd yn cael ei osod ar gornel adeilad newydd TÅ· William Morgan

Mae'r faner finyl Jac yr Undeb, sy'n mesur 32 metr o uchder a naw metr o led, wedi cael ei chymeradwyo gan swyddogion cynllunio Cyngor Caerdydd.

Bydd yn cael ei gosod ar gornel TÅ· William Morgan, sy'n gartref newydd i swyddfa dreth yr HMRC yng nghanol y brifddinas.

Bydd yr Adran Masnach Ryngwladol, Swyddfa Cymru a Swyddfa'r Cabinet hefyd yn defnyddio'r adeilad.

'Dim sail dros drafodaeth'

Wrth amddiffyn y cynlluniau a thrafod y ddeiseb gan YesCymru, dywedodd Mr Davies: "Os ydyn nhw'n credu bod ganddyn nhw ddadl deg, yna fe ddylen nhw gofio ein bod ni wedi gwneud cais cynllunio ar gyfer ein baner.

"Os ydyn nhw eisiau dechrau gwneud cais cynllunio ar gyfer yr holl sticeri maen nhw'n eu gosod yn anghyfreithlon, yna falle y byddai ganddyn nhw sail dros gael trafodaeth, ond ar hyn o bryd does dim sail."

Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart AS, mae gan Queen Elizabeth House yng Nghaeredin yr un brandio o ran baner Jac yr Undeb â'r hyn sydd ar y gweill ar gyfer Tŷ William Morgan.

Ond wrth siarad ar raglen Â鶹ԼÅÄ Politics Live, dywedodd Elin Hywel o YesCymru: "I ddechrau arni, Cymru ydy fy ngwlad i - rwy'n Gymraes a fy maner i ydy'r Ddraig Goch.

"Mae'n ansensitif i hunaniaeth pobl. Pan rydych yn teimlo bod eich hunaniaeth yn cael ei sathru, yn cael ei neilltuo o fannau cyhoeddus, yna mae'n cael effaith negyddol ar ein hyder."