Jac yr Undeb: Uno'r deyrnas neu'n mynnu Prydeindod?

Ffynhonnell y llun, GEOFF CADDICK

Ym mis Mawrth, cafwyd cyhoeddiad am fwriad Llywodraeth San Steffan i sicrhau fod Baner yr Undeb - neu Jac yr Undeb - yn cwhwfan tu allan i bob un adeiladau o llywodraethol y DU bob diwrnod, yn hytrach na dim ond ar ddyddiau penodol.

Ar 30 Mehefin, rhoddodd Cyngor Caerdydd ganiatâd i faner enfawr Jac yr Undeb gael ei harddangos ar adeilad newydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) yng Nghaerdydd.

Mae'r cyhoeddiadau diweddar wedi achosi cryn ddadlau yma yng Nghymru.

I osgoi neges Twitter, 1
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 1

I osgoi neges Twitter, 2
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter, 2

Cynrychioli Cymru?

Un ochr y ddadl yw fod hyn yn beth da er mwyn sicrhau undod rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig, tra fod Cymry eraill yn teimlo nad yw'n faner iddyn nhw, yn arbennig gan nad yw Cymru yn cael ei chynrychioli'n weledol arni.

Felly beth yn union yw'r gwahanol elfennau sydd i'w gweld ar Faner yr Undeb, a beth maen nhw'n eu cynrychioli?

  • Croes goch ar gefndir gwyn: Croes Sant Siôr, nawddsant Lloegr
  • Croes wen lletraws ar gefndir glas: Croes Sant Andras, nawddsant Yr Alban
  • Croes goch letraws ar gefndir gwyn: Croes Sant Padrig, nawddsant Iwerddon

Cafodd croes Sant Siôr a chroes Sant Andras eu cyfuno ar faner am y tro cyntaf yn 1606, a'i galw yn Faner Prydain Fawr.

Ychwanegwyd croes Sant Padrig yn dilyn Deddfau Uno 1801 i greu Baner yr Undeb, i nodi uniad Iwerddon at y gwledydd eraill. Ers 1921, dim ond Gogledd Iwerddon sydd yn rhan o'r Deyrnas Unedig.

Fodd bynnag, nid yw na chroes Dewi Sant na'r Ddraig Goch yn cael eu cynrychioli ar Faner yr Undeb. Mae hyn oherwydd erbyn i'r faner gael ei chreu gyntaf yn 1606, roedd Cymru eisoes wedi ei huno â Lloegr, yn dilyn Deddfau Uno 1536. Felly, mae Cymru yn cael ei chynrychioli gan groes Sant Siôr.

Ffynhonnell y llun, VSFP

Disgrifiad o'r llun, Mae Baner yr Undeb yn cynrychioli Lloegr, Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon - ond ni welwch chi ddraig goch neu gefndir gwyrdd arni

"Cadw'r undeb at ei gilydd yn flaenoriaeth"

Felly beth sydd tu ôl i'r penderfyniadau yma, sy'n ceisio sicrhau fod y faner yn cael lle mwy blaenllaw ledled Prydain?

Mewn sgwrs ar Dros Frecwast ddiwedd Mawrth, bu Gohebydd Seneddol y Â鶹ԼÅÄ, Elliw Gwawr, a'r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn trafod y pwnc llosg yma. Ceisio 'sicrhau diogelwch y Deyrnas Unedig' sydd wrth wraidd hyn meddai'r ddau.

Roedd Elliw yn credu fod yr ymgyrchoedd annibyniaeth diweddar gan rai o wledydd Prydain ran i'w chwarae.

"Mae Llywodraeth San Steffan yn poeni, mae hynny'n sicr," meddai. "Heblaw am y pandemig, dyma beth maen nhw'n ei weld fel yr her fwyaf sy'n eu hwynebu nhw ar hyn o bryd. Mae cadw'r undeb at ei gilydd yn un o flaenoriaethau Boris Johnson.

"Ac ydi, mae o bach o obsesiwn; mae popeth maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd, pob cyhoeddiad ar wariant yn cael ei lapio mewn Jac yr Undeb.

Ffynhonnell y llun, Â鶹ԼÅÄ Parliament

Disgrifiad o'r llun, Jamie Wallis, Aelod Seneddol Ceidwadol dros Ben-y-bont a Phorthcawl wedi ei lapio mewn Jac yr Undeb. Roedd eisiau clywed safbwynt Oliver Dowden, y Gweinidog dros Ddiwylliant yn San Steffan ynglŷn â'r ffaith nad oes hawl arddangos baneri o unrhyw fath yn y cefndir mewn cyfarfodydd Senedd Cymru yn dilyn cyhoeddiad gan y Llywydd, Elin Jones AS.

"Y strategaeth glir nawr yw i hyrwyddo budd yr undeb ar bob cyfle posib, a hyd yn oed i ymyrryd, mewn ffordd, yn y gwledydd eraill - hyd yn oed mewn meysydd datganoledig - a gwario arian yn uniongyrchol yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon mewn modd dy'n nhw ddim wedi ei wneud o'r blaen."

Er ei bod hi'n gallu gweld beth yw ymgais y Llywodraeth, nid yw hi o reidrwydd yn teimlo ei fod yn rhywbeth a fydd yn llwyddiannus iawn.

"Y gobaith yw, ar y cyfan, y bydd y cyhoedd yn gyffredinol yn credu ei fod o'n beth da bod mwy o arian yn dod i mewn i'w hardal lleol nhw, ac yn y pendraw yn diolch i Lywodraeth y DU," meddai.

"Ond wrth gwrs, dyna'n union oedd yr Undeb Ewropeaidd yn ei wneud - roedd fflagiau'r Undeb Ewropeaidd ymhob man, lle oedd arian yn cael ei wario - a 'nath hynny ddim lot o dda iddyn nhw.

"A Boris Johnson, fel rhywun oedd yng nghanol yr ymgyrch Brexit, ddyla fo wybod mae nid y dadleuon economaidd sydd yn wir yn ennill brwydr fel hyn, ond mynd at galon pobl, ac mae hynny'n rhywbeth sydd yn anodd iawn iddyn nhw ei wneud."

"Codi pais ar ôl..."

Roedd Yr Athro Richard Wyn Jones yn teimlo fod ymgais Llywodraeth San Steffan i 'ddiogelu'r Undeb' yn digwydd braidd yn rhy hwyr i fod yn llwyddiant ysgubol, a bod yna ormod o wahaniaethau rhwng y bedair wlad.

"Mae'n rhaid cofio, dydi'r Deyrnas Brydeinig erioed wedi bod yn un genedl; mae gennym ni wahanol genhedloedd oddi fewn i'r deyrnas, a ddaru nhw bleidleisio mewn gwahanol ffyrdd yn Refferendwm Brexit.

"Ddaru'r Alban a Gogledd Iwerddon bleidleisio yn eglur iawn i aros. Hyd yn oed oddi mewn i Gymru, roedd 'na wahaniaethau sylfaenol o ran pleidleisio, ar sail hunaniaeth genedlaethol pobl."

Mae Llywodraeth San Steffan yn gwybod hyn, meddai ond "maen nhw wedi gweithredu ffyrdd o Brexit sydd yn gwneud cadw'r Deyrnas Gyfunol at ei gilydd yn llawer iawn anoddach. Ac ar ôl iddyn nhw wneud hyn, maen nhw rŵan yn trio chwilio am rhyw ffordd o gadw'r holl beth at ei gilydd."

Felly, meddai Richard Wyn Jones, ateb Llywodraeth San Steffan ydi sicrhau fod y faner sydd yn cynrychioli'r Deyrnas Unedig i'w gweld yn glir, ym mhob man, ac yn symbol pendant o undod.

"Jac yr Undeb yn cwhwfan ar bob tÅ·, clawdd a chae yng Nghymru... dyna 'di'r nod dwi'n meddwl gan y Llywodraeth Brydeinig, yn breifat.

"Wrth gwrs, dydi Cymru ddim yn cael ei chynrychioli yn y faner honno, sydd ar un ystyr yn beth bach, a falle bod pobl sy'n teimlo'n Brydeinig yng Nghymru ddim yn poeni dim am y peth. Ond mae 'na garfan o bobl yng Nghymru sy'n mynd i edrych ar hynny a dweud 'nid fy maner i ydi honna'.

"O ran y tirlun i'r dyfodol, dydi cwhwfan Jac yr Undeb a gorfodi un syniad unffurf o Brydeindod - sydd erioed wedi bodoli, gyda llaw yn hanes y wladwriaeth - y peryg mawr o safbwynt y Llywodraeth Brydeinig, fod yna ymddieithrio pobl ifanc.

"'Dan ni eisoes yn gweld hynny yn Yr Alban, lle mae'r gefnogaeth i annibyniaeth ymhlith y to iau yn syfrdanol o fawr. Mae'r gefnogaeth i annibyniaeth yng Nghymru yn llawer uwch ymhlith pobl ifanc.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Disgrifiad o'r llun, Mae yna ddiddordeb cynyddol mewn annibyniaeth i Gymru

"Ond un o'r pethau mae'r tacteg presennol yn ei ddeud wrtha ni ydi fod y cwpwrdd yn wag o ran y Llywodraeth Brydeinig. Does ganddyn nhw ddim llawer o syniadau eraill am beth i'w wneud ynglŷn â'r broses sy'n mynd ymlaen.

"Maen nhw 'di mynd ati i weithredu Brexit yn y ffordd mwya' niweidiol posib o ran dyfodol yr undeb, gan anwybyddu gwahaniaethau barn ar draws y wladwriaeth. Erbyn rŵan, maen nhw'n dangos nad oes ganddyn nhw lawer o syniad o be' i'w neud, tu hwnt i'r hysbysebu gwrthgynhyrchiol yma."