Â鶹ԼÅÄ

Eisteddfod ddigidol i ddatgan bod yr ŵyl 'dal yma'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Pared yr Eisteddfod Ryngwladol 2018

Ymhlith gwyliau Cymru sydd ddim yn cael eu cynnal yn y modd arferol eleni mae Eisteddfod Llangollen.

Yn enwog am "groesawu'r byd", fe gyhoeddodd yr ŵyl ryngwladol ddechrau'r flwyddyn na fydden nhw'n medru gwneud hynny eleni.

Bydd gŵyl rithiol yn cael ei chynnal wythnos i heddiw gyda chyfres o berfformiadau a phrosiectau gwahanol.

Bydd yr ŵyl yn cynnwys gosodiad celf dros bont y dref gan yr arlunydd Luke Jerram, gwaith corawl newydd gan y cyfansoddwr Paul Mealor a'r prifardd Mererid Hopwood, a thrac dawns gan y DJ Rachel K Collier, y rapiwr Magugu a'r cerddor Lily Beau.

Fe ddywedodd arweinwyr yr Eisteddfod fis Ionawr mai'r bwriad eleni fyddai datgan eu bod yn "dal yma".

'Elfen ddigidol i aros'

Gyda'r paratoadau olaf bron yn eu lle ar gyfer yr wythnos nesaf, mae golygon eisoes yn troi at y flwyddyn nesaf yn y gobaith y bydd modd i rai pobl o dramor ddod i gystadlu yn ôl yr arfer.

Ac mae'r trefnwyr yn credu y bydd camu i'r maes digidol eleni'n eu helpu wrth baratoi ar gyfer y blynyddoedd nesaf.

Disgrifiad o’r llun,

Ensemble Guzheng yn perfformio yn 2018

"Dwi'm yn credu y bydd yr ŵyl yr un peth â'r arfer," medd Betsan Moses, Prif Weithredwr Dros Dro yr Eisteddfod Ryngwladol.

"Ond dwi'm yn credu bod hynny'n beth negyddol ychwaith oherwydd drwy'r elfen ddigidol mae 'na gynulleidfaoedd newydd wedi dod atom ni.

"Wrth i ni fynd yn ôl i'r Maes, mae'n bwysig i ni ddefnyddio'r elfen ddigidol yna oherwydd mi fyddwn ni'n byw efo Covid am flynyddoedd eto ac felly fydd rhaid i ni ddefnyddio'r elfen ddigidol i ddod â pobl atom ni fydd falle ddim yn gallu teithio.

"Wrth gwrs dyna fydd y gwaith mawr dros yr hydref yw edrych ar beth sy'n bosib i'w wireddu ar gyfer y flwyddyn nesaf."

Yn y blynyddoedd cyn y pandemig, roedd y trefnwyr yn dweud iddyn nhw gael anawsterau wrth geisio croesawu cystadleuwyr o dramor yn sgil problemau Visa a Brexit.

Disgrifiad o’r llun,

Mae wythnos yr Eisteddfod fel arfer yn wythnos prysur iawn i Siôn Dennis, perchennog Siop Fach yn Llangollen

Mae Siôn Dennis yn rhedeg siop yn Llangollen ac yn gefnogwr brwd o'r Eisteddfod Ryngwladol.

Er ei fod yn awyddus i weld ymwelwyr tramor yn dychwelyd y flwyddyn nesaf, dydy o ddim yn pryderu llawer eleni.

"Wythnos yr Eisteddfod mae'n brysur, brysur iawn a fyddwn ni ddim yn cael hynny eleni.

"Ond to be honest, mae llawer o bobl yn y dref ac 'den ni'n lwcus am hynny."