Â鶹ԼÅÄ

'Cymru ddim yn gallu ymdopi â thon newydd o ddigartrefedd'

  • Cyhoeddwyd
Â鶹ԼÅÄless personFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Shelter fydd Cymru ddim yn "gallu ymdopi" wrth i'r gwaharddiad ar droi allan denantiaid ddod i ben

Fydd y system ddigartrefedd yng Nghymru ddim "yn gallu ymdopi" gyda'r "don newydd" o alw allai ddod o ganlyniad i godi'r gwaharddiad ar orchymyn tenantiaid i adael eu cartrefi, yn ôl elusen.

Dywedodd Shelter Cymru y gallai penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio ag ymestyn y gwaharddiad, a gyflwynwyd i amddiffyn tenantiaid yn ystod y pandemig, effeithio ar "gannoedd" o bobl.

Dywedodd y llywodraeth fod y penderfyniad wedi'i wneud "yn unol â chodi cyfyngiadau eraill".

Daeth y i rym yng Nghymru ym mis Rhagfyr "i ddiogelu iechyd y cyhoedd a chefnogi tenantiaid".

Cafodd ei ymestyn tan ddiwedd mis Mawrth i ddechrau, ac yna tan ddiwedd mis Mehefin.

Mae gweinidogion bellach wedi cadarnhau na fydd yn cael ei ymestyn ymhellach "yn unol â chodi cyfyngiadau eraill gan ein bod ni ar lefel rhybudd un".

Fodd bynnag bydd yn rhaid i landlordiaid barhau i roi chwe mis o rybudd i denantiaid cyn eu bod nhw'n gorfod gadael.

Daeth gwaharddiad tebyg yn Lloegr i ben ar 31 Mai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Shelter bod y gwaharddiad a ddaeth i rym yn sgil y pandemig wedi achub bywydau

Dywedodd Jennie Bibbings, Pennaeth Ymgyrchoedd Shelter Cymru, fod y gwaharddiad wedi "achub bywydau".

Pan ofynnwyd iddi faint o bobl y gallai'r newid effeithio arnynt, dywedodd Ms Bibbings wrth raglen Politics Wales y Â鶹ԼÅÄ: "Rydyn ni'n credu ei bod yn debygol o fod yn y cannoedd yn hytrach na'r miloedd.

"Fodd bynnag nid yw'n ymwneud yn unig â'r rhai sydd eisoes yn y system, mae'n ymwneud â'r holl orchmynion newydd sy'n mynd i ddechrau dod trwodd unwaith y bydd landlordiaid yn cael y neges bod y gwaharddiad yn cael ei godi."

Dywedodd Ms Bibbings, pe bai trydedd don o'r firws, byddai'n rhaid ailgyflwyno'r gwaharddiad ac "mae'n rhaid i ni i gyd obeithio nad oes gormod o ddifrod wedi'i wneud yn y cyfamser".

"Ni fydd ein system yng Nghymru yn ymdopi â thon newydd o ddigartrefedd," ychwanegodd.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth y bydd "cynllun newydd i ddarparu cefnogaeth bellach i bobl sy'n ei chael yn anodd talu eu rhent" oherwydd y pandemig yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yr wythnos hon.

"Yn y cyfamser, rydym yn parhau i annog unrhyw un sy'n profi problemau i siarad â'u landlord a chysylltu â Chyngor ar Bopeth Cymru neu Shelter Cymru i gael cyngor a chefnogaeth bellach."

Mae Sarah Davies, sy'n byw yn Ynys-wen ger Ystradgynlais gyda'i merch bum mlwydd oed, yn gorfod gadael ei chartref.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sarah Davies o Ynys-wen yn gorfod gadael ei chartref

Dywedodd ei bod hi wedi rhoi'r gorau i dalu rhent ar ôl i'r landlord anwybyddu ceisiadau i wneud gwaith cynnal a chadw ar y tŷ.

Mae'r landlord yn gwrthod yn chwyrn y fersiwn honno o ddigwyddiadau.

Nawr mae Ms Davies yn aros am gnoc ar y drws.

"Rwy'n hanner-barod ar ei gyfer," meddai.

"Yn amlwg dydw i ddim eisiau cynhyrfu fy merch felly mae gen i ffrindiau yn eu lle os yw hynny'n digwydd a gallan nhw ddod i'w chasglu hi fel nad oes raid iddi fynd trwy'r trawma hwnnw.

"Byddai'n braf cael ychydig mwy o amser."

Dywedodd fod angen i Lywodraeth Cymru "edrych ar y darlun ehangach".

"Os oes cyfnod clo eto a'r llefydd gwely a brecwast yn cau eto, beth ydych chi'n mynd i'w wneud?

"Byddwn ni i gyd allan ar y stryd."

Y stori yn llawn ar Politics Wales ar Â鶹ԼÅÄ1 Cymru am 10:00 ddydd Sul.

Pynciau cysylltiedig