Â鶹ԼÅÄ

Gwirfoddolwr treial Covid methu dathlu pen-blwydd dramor

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Tom Williams (centre) and his familyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tom Williams wedi gobeithio teithio i Ffrainc ar 25 Gorffennaf i ddathlu ei ben-blwydd yn 70 gyda'i deulu

Dywed dyn o Ddinbych sydd wedi bod yn gwirfoddoli mewn treial brechlyn Covid y bydd yn gorfod canslo ei ddathliadau pen-blwydd 70 yn Ffrainc am nad yw wedi'i frechu gan frechlyn sydd wedi'i gymeradwyo.

Mae Tom Williams wedi bod yn rhan o arbrawf Novavax - brechlyn na sydd wedi ei gymeradwyo a, gan ei fod eisoes wedi cael y brechlyn hwnnw, nid yw'n gymwys i gael brechlyn trwyddedig.

Mae'r DU ar restr oren Ffrainc a dim ond pobl sydd wedi'u brechu'n llawn gan frechlynnau sydd wedi'u cymeradwyo sy'n cael teithio yno ar wyliau.

Dywed y corff sydd wedi bod yn arolygu'r treial eu bod yn ymwybodol o'r mater a'u bod yn "ceisio ei ddatrys".

Dywed Mr Williams bod angen i Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) sylweddoli a chydnabod nad oes modd datblygu brechlynnau heb wirfoddolwyr ac na ddylent fod o dan unrhyw anfantais.

Dywed WHO "eu bod yn argymell rhoi blaenoriaeth i deithio angenrheidiol a bod angen i fesurau penodol barhau er mwyn gostwng y risg o ledaeniad Covid-19 drwy deithio rhyngwladol".

'Rhwystredig'

Ychwanegodd Mr Williams: "Mae llywodraethau Cymru a Phrydain wedi bod yn siarad am basborts brechu ers rhai misoedd - mae'n rhaid eu bod wedi gallu rhagweld y byddai hyn yn digwydd yn hwyr neu'n hwyrach.

"Mae'n sefyllfa hynod o rwystredig."

Mae llywodraeth Ffrainc ond yn cydnabod brechlynnau sydd wedi cael sêl bendith yr Asiantaeth Feddygol Ewropeaidd (EMA) - sef Pfizer-BioNtech, Moderna, Oxford/AstraZeneca, a Johnson & Johnson.

Mae brechlyn Novavax ar hyn o bryd yn cael ei asesu gan Asiantaeth Reoleiddio.

Dywed y cwmni eu bod yn disgwyl cael yr awdurdod i frechu yn hwyrach yn y flwyddyn.

Dywed Mr Williams ei fod wedi penderfynu gwirfoddoli wedi iddo weld hysbyseb yn galw am wirfoddolwyr yn Wrecsam.

"Roeddwn i'n ddigon hapus i wirfoddoli. Yn y bôn dwi eisiau cael fy mywyd i a bywyd pawb arall yn ôl i'r hyn oedd o," meddai.

Wedi profion meddygol, fe gafodd y brechlyn cyntaf ar 4 Tachwedd a'r ail ar 25 Tachwedd. Ar y pryd, nid oedd yn gwybod os oedd yn cael y brechlyn neu blasebo.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Mr Williams ddim yn gwbl hyderus y gallai deithio i Ffrainc haf eleni

Ym mis Chwefror fe gafodd Mr Williams lythyr yn ei wahodd am frechlyn ond wedi iddo gysylltu â'r ganolfan dreialu cafodd wybod ei fod eisoes wedi derbyn dau ddos o Novavax.

Dywed bod GIG Cymru wedi dweud wrtho nad oedd hi'n beth doeth cael brechlyn arall.

"Yn amlwg doedden nhw ddim yn ymwybodol o effaith hynny," meddai.

Yn gynharach yr wythnos hon aeth i ganolfan frechu ym Mangor ond unwaith eto gwrthodwyd iddo gael brechlyn sydd wedi'i awdurdodi.

Ychwanegodd y bydd yn hynod siomedig os na fydd yn gallu teithio gyda'i deulu i Ffrainc ar 25 Gorffennaf.

"Rwy'n gwerthfawrogi nad yw'r DU yn gallu rheoli gwledydd eraill," meddai, "ond mae hwn yn fater byd eang.

"Mae brechlynnau eraill yn cael eu treialu ac os nad oes yr un ohonynt yn cael eu cydnabod fe fydd pobl yn gyndyn o wirfoddoli yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae hanner poblogaeth Cymru bellach wedi cael dau ddos

Mewn llythyr a gafodd ei anfon gan ddirprwy brif swyddog meddygol y DU, yr Athro Jonathan Van-Tam, at wirfoddolwyr nodwyd bod "cymdeithas yn elwa o'u cyfraniad" ac na fyddent yn "wynebu unrhyw anfanteision wrth i deithio byd-eang ailddechrau".

Ychwanegodd bod y fantais o gael gwirfoddolwyr yn llawer iawn mwy na'r risg o ganiatáu i nifer fechan (40,000 - nifer wedi'u brechu) deithio a dywedodd y byddai llywodraeth y DU yn ymdrechu'n galed i ddylanwadu ar y gwledydd hynny sy'n gwahardd gwirfoddolwyr treialon Covid.

Mae data GIG Cymru yn dangos bod 505,230 o bobl yn y DU wedi gwirfoddoli i fod yn rhan o dreialon brechlynnau a bod 15,580 o'r rhai hynny yn byw yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu "bod yn ddiolchgar i wirfoddolwyr a'u bod wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol i'w hymchwil".

Ychwanegodd fod "brechlynnau na sydd hyd yma wedi'u trwyddedu fel rhan o gam 3 yn cael eu cofnodi ar system frechu genedlaethol er mwyn sicrhau bod y cofnodion yn cael eu cwblhau".

Dywedodd hefyd mai cyngor Llywodraeth Cymru yw "teithiwch dramor dim ond os oes gwirioneddol raid".

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Dyw brechlyn Novavax ddim wedi cael ei gymeradwyo hyd yma

Wrth ymateb i bryderon Mr Williams dywed y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd eu bod yn ymwybodol o'r mater ac yn "ceisio ei ddatrys cyn gynted â phosib".

"Ry'n yn hynod ddiolchgar i bob gwirfoddolwr a ddim eisiau iddynt wynebu unrhyw anfantais.

"Ry'n yn cydnabod cymaint yw cyfraniad gwirfoddolwyr i gymdeithas a ddim am iddynt ddioddef na phryderu."