'Dim arddangos baneri,' medd y Llywydd wrth ASau

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Roedd baner Jac yr Undeb yn cael ei harddangos gan Janet Finch-Saunders yn ystod y cyfarfod llawn ddydd Mercher

Mae Llywydd y Senedd, Elin Jones, wedi mynegi anfodlonrwydd ynghylch baneri sy'n cael eu harddangos y tu ôl i aelodau tra'n siarad ar Zoom.

Yn ystod cyfarfod llawn ddydd Mercher dywedodd: "Mae'n edrych fel pe bai'r gyfradd 'R' ar faneri yn fwy nag un ar hyn o bryd. Felly, o'r wythnos nesaf ymlaen, dim mwy o faneri.

"Fel arall, byddaf yn cael fy nhemtio i chwifio baner gweriniaeth drofannol annibynnol Ceredigion y tu ôl i mi yma."

Yn ystod y trafodaethau roedd baner Jac yr Undeb yn cael ei harddangos gan yr aelodau Ceidwadol Janet Finch-Saunders a Laura Anne Jones, a oedd hefyd yn arddangos baner Cymru.

Wrth ymateb dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae hwn yn ymyrraeth ryfedd gan y Llywydd.

"Ni ddylai fod unrhyw beth o'i le ar Aelodau o'r Senedd yn arddangos baneri Cymru neu Brydain yn eu swyddfa. Yn wir, mae gan y Senedd faneri o'r fath yn cael eu harddangos."

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Llywydd Elin Jones wedi mynegi anfodlonrwydd ynghylch baneri y tu ôl i ASau ar Zoom

Fe ddaeth yr ymyrraeth wedi cwestiwn gan AS Aberconwy Janet Finch-Saunders i'r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans.

"Yr wythnos nesaf fe fyddwn yn symud ymlaen i wythnos ddi-faner, os gwelwch yn dda" meddai Elin Jones.

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Laura Anne Jones arddangos baner yr Undeb gyda llun o'r frenhines a baner Cymru

Ychwanegodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr: "Yn hytrach na phlismona yr hyn sy'n gefndir i aelodau, byddai'n well petai'r llywydd yn sicrhau bod gweinidogion yn annerch Senedd Cymru yn gyntaf yn hytrach na'r wasg ar faterion fel cyfyngiadau y cyfnod clo a'u bod yn dangos parch i Aelodau o'r Senedd drwy gyrraedd mewn da bryd."