Cofio David R Edwards, Datblygu, 'prifardd y sîn tanddaearol'

Ffynhonnell y llun, GanMed64 drwy Wikimedia Commons

Disgrifiad o'r llun, Dave Datblygu yng ngŵyl Pesda Roc yn yr 1980au: wastad yn herio'i gynulleidfa

David R Edwards oedd "prifardd y sîn tanddaearol" meddai ei gyfaill Gareth Potter wrth roi teyrnged ar Radio Cymru i brif leisydd eiconig y band Datblygu, sydd wedi marw yn 56 mlwydd oed.

Roedd 'Dave Datblygu' yn llais unigryw, weithiau'n llais unig, oedd yn ddigyfaddawd yn ei feirniadaeth o'r diwylliant Cymraeg, gyda chaneuon dychan fel Cân i Gymru yn lambastio'r sefydliad dosbarth canol Cymreig.

Ar y llaw arall roedd yn angerddol dros yr iaith a rhoddodd ei holl greadigrwydd i gyfoethogi'r Gymraeg a'i diwylliant gan wrthod canu yn Saesneg ar hyd ei oes.

Er ei ddelwedd ymosodol a'i ganeuon heriol oedd yn pigo cydwybod a dal drych anghyfforddus i'r Cymry Cymraeg, roedd ganddo dynerwch yn ei waith hefyd; i lawer mae Y Teimlad yn un o ganeuon gorau'r iaith Gymraeg am gariad.

'Eicon cerddorol'

Mae Owain Schiavone, uwch-gynhyrchydd cylchgrawn a gwefan Y Selar, wedi bod yn cofio'r artist fel person "cynnes" sydd wedi cael "dylanwad enfawr" ar gerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt.

Disgrifiad o'r llun, Gyda Pat Morgan yn nyddiau cynnar Datblygu

"Roedd 'na rywbeth cynnes iawn amdano fo er gwaetha'r persona 'ma roedd rhai pobl yn ei weld ar lwyfan," meddai.

"Dwi'n cofio ei ffonio fo am y tro cyntaf erioed ac o'n i'n nyrfys ofnadwy ac ychydig bach o ofn achos dyma ichi'r eicon cerddorol yma o'n i'n gwybod amdano fo efo'r persona 'ma oedd ychydig bach yn sgeri mewn gwirionedd ar lwyfan.

"Ond oedd ganddo fo allu i wneud ichi deimlo yn gyfforddus iawn ac roedd o'n gallu sgwrsio yn rhwydd dros ben, oedd o jyst yn foi cyfeillgar."

Beth yw dylanwad Datblygu?

"Yn sicr mae dylanwad Datblygu a Dave wedi bod yn enfawr ar y sîn rydyn ni'n ei adnabod erbyn hyn yn y Gymraeg.

"Dwi'n meddwl bod y grŵp yn cael ei werthfawrogi llawer mwy heddiw nag oedden nhw ar y pryd, yn sicr ar y cyfryngau prif ffrwd.

"Ond does dim ond angen edrych ar ymateb rhai o'r artistiaid a'r grwpiau ar y cyfryngau cymdeithasol i'r newyddion bod ni wedi colli Dave i weld y dylanwad gafodd o a dwi'n siŵr y byse lot o'r grwpiau cyfoes yn cydnabod bod cerddoriaeth Datblygu wedi bod yn ddylanwad enfawr arnyn nhw."

Disgrifiad o'r fideo, Cofio David R. Edwards

Rhyddhau Wyau a Pyst yn yr Eidal

Mae'r dylanwad wedi bod y tu hwnt i Gymru hefyd meddai Owain, gan gyfeirio at fis Ebrill am y ffaith bod dau o albyms Datblygu, Wyau a Pyst, wedi cael ei hail-ryddhau yn Yr Eidal yn 2021.

"Ro'n i'n siarad efo rheolwr y label [Hate Records], Pierluigi Bella, oedd wedi bod eisiau rhyddhau miwsig Datblygu ers iddo fo glywed y grŵp gyntaf yn yr 1990au.

"A wedyn Gisella Albertini oedd yn wneuthurwr ffilm oedd wedi clywed cerddoriaeth Datblygu a mynd ati i ddysgu Cymraeg oherwydd y diddordeb yma nid yn unig yn y gerddoriaeth ond yn y geiriau barddonol yma oedd Dave efo'r gallu gwyrthiol bron i'w hysgrifennu."

O'r archif:

Roedd y cyflwynydd radio John Peel yn un o ffans pennaf y band hefyd ac yn eu chwarae yn gyson ar ei raglen.

"Mae'r dylanwad yna yn dipyn ehangach na dim ond y sîn Gymraeg. Dwi'n meddwl bod nhw'n un o'r grwpiau Cymraeg wnaeth gyrraedd cynulleidfa ehangach ac efallai y grŵp sydd wedi cyrraedd y gynulleidfa ehangaf trwy gyfrwng eu cerddoriaeth," meddai Owain.

Yn 'driw' i'r Gymraeg

Disgrifiad o'r sainDave Datblygu yn trafod canu yn Gymraeg gyda Huw Stephens

"Ac [roedden nhw'n] driw iawn i'r iaith Gymraeg hefyd.

"Dwi'n cofio fo'n deud bod canu yn Saesneg ddim o ddiddordeb iddo fo er gwaethaf bod ganddo fo lot o bethau beirniadol i'w dweud am y Gymraeg ac am y Gymru gyfoes, roedd o'n driw iawn i'r iaith ac yn gallu cyfleu ei hun yn hynod o effeithiol drwy gyfrwng yr iaith yna.

Sut y bydd yn cael ei gofio?

Ffynhonnell y llun, Maria Jefferis

"Mae gen i deimlad bydd pobl yn gwerthfawrogi cerddoriaeth Dave a Datblygu yn llawer mwy yn y dyfodol nag yn sicr beth wnaethon nhw yn y gorffennol a hyd yn oed yn y presennol hefyd

"Mae'r artistiaid gorau fel pe baen nhw yn cael eu gwerthfawrogi yn fwy ar ôl iddyn nhw fynd a'n gadael ni a dwi'n meddwl fydd hynny'n wir am Dave.

"Roedd Datblygu'n grŵp arloesol, ymhell o flaen eu hamser a dwi'n meddwl bydd y gwerthfawrogiad yna o'r gerddoriaeth a'r celf wnaethon nhw ei greu yn llawer amlycach yn y dyfodol.

"Does dim ond angen edrych ar yr ymateb i'r newyddion trist i weld hynny."