Â鶹ԼÅÄ

Ymgyrch yr Urdd i annog mwy o ferched i ymarfer corff

  • Cyhoeddwyd
Gwenno Jobbins a Mali DaviesFfynhonnell y llun, Llun cyfranwyr
Disgrifiad o’r llun,

"Mae angen anogaeth ar bobl oed ni i gadw'n heini," medd Gwenno Jobbins a Mali Davies

Mae Urdd Gobaith Cymru yn lansio prosiect cenedlaethol #FelMerch gyda chefnogaeth Chwaraeon Cymru i annog mwy o ferched i gymryd rhan mewn ymarfer corff.

Nod yr Urdd yw sicrhau fod pob merch a menyw ifanc yng Nghymru yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon hamdden, beth bynnag fo'u gallu neu brofiad, wrth i gyfyngiadau Covid-19 lacio.

Mae ymchwil gan gwmni Always yn dangos fod perygl i genhedlaeth o ferched roi'r gorau i chwaraeon.

Mae'r gwaith ymchwil yn nodi nad yw dros hanner (55%) o ferched yn eu harddegau yn cadw'n heini, gyda thri chwarter (75%) yn teimlo bod angen mwy o gefnogaeth "i'w cadw mewn chwaraeon".

'Dwi ddim yn 'neud ymarfer corff'

"Dwi'n 18 oed, dwi'n mwynhau cerdded ond does gen i ddim motivation o gwbl i fynd i unrhyw gampfa neu ymuno â chlwb chwaraeon," medd Gwenno Jobbins, o Aberystwyth.

"Ar wahân i gerdded, dwi ddim yn 'neud ymarfer corff. Mae ymuno 'da chlwb yn anodd achos dwi'n teimlo bo' fi ddim yn oedolyn nag yn blentyn.

"A does gen i ddim unrhyw gymhelliad i ymarfer ar hyn o bryd. Mi oeddwn i'n 'neud yn yr ysgol ond ar ôl gadael flwyddyn yn ôl dwi wedi 'neud dim heblaw cerdded."

Ffynhonnell y llun, Ceredigion Actif
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mali (yma ar y dde) yn mwynhau chwaraeon ond yn dweud bod cyfnod y pandemig yn anodd

Mae profiadau o'r fath yn dangos pa mor bwysig yw cynllun newydd yr Urdd, medd Mali Davies, 18 oed o Langeitho yng Ngheredigion.

Cyn y cyfnod clo roedd Mali yn teithio i Abertawe yn gyson i chwarae pêl-rwyd ac mae hi hefyd yn aelod o dîm pêl-droed Tregaron a thîm pêl-rwyd Bont Blades.

"Do'dd dim posib 'neud dim un o'r campau yna yn y cyfnod clo, ac ar wahân i redeg 'nes i ddim neud lot i ddweud y gwir," meddai wrth Cymru Fyw.

"Dyw pêl-rwyd ddim 'nôl 'to ond maen nhw'n trio gweld sut mae newid y gêm rywfaint i gwrdd â'r gofynion. Mae'r pêl-droed yn Nhregaron newydd ailddechrau a ma' hynny'n grêt.

"Wedi gadael ysgol - does dim cymaint o amser 'da pobl a hefyd dim hyder i 'neud ymarfer corff.

"I fi mae cymryd rhan mewn chwaraeon mor bwysig - bod yn rhan o dîm. Mae'n dda i les meddwl ond hefyd mae'n ffordd o gymdeithasu. Mae hi mor bwysig siarad â phobl eraill ac mae 'neud unrhyw chwaraeon yn rhoi'r cyfle yna i chi."

Mae ymchwil gan Chwaraeon Cymru hefyd yn dangos fod y pandemig wedi arwain at fwy o fenywod yn dweud eu bod yn gwneud llai o chwaraeon - yn ogystal â theimlo'n euog am beidio â chadw'n heini, ac yn poeni am adael y tŷ.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yw penodi llysgenhadon cenedlaethol fel maswr tîm merched Cymru a Bryste, Elinor Snowsill

Prif nod #FelMerch yw ysbrydoli, cefnogi ac annog merched 14-25 oed i gadw'n actif a chwalu'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag cymryd rhan mewn chwaraeon drwy gyflawni'r canlynol:

  • Cynnal gweithgareddau wythnosol cynhwysol, wyneb yn wyneb neu'n rhithiol;

  • Sefydlu fforymau rhanbarthol a chenedlaethol;

  • Penodi llysgenhadon er mwyn ysbrydoli eraill;

  • Darparu rhaglenni arweinyddiaeth;

  • Sefydlu hybiau cymunedol yn ystod gwyliau;

  • Trefnu cynhadledd genedlaethol er mwyn rhannu llwyddiant a syniadau.

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a'r Prif Chwip, Dawn Bowden AS yn croesawu'r cyhoeddiad ac yn dweud: "Rwy'n cydnabod bod angen gwneud mwy i gau'r bylchau sy'n bodoli rhwng dynion a merched pan mae hi'n dod i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol, a chanolbwyntio ar ddarparu mwy o gyfleoedd o ansawdd i ferched a menywod ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon.

"Rwy'n falch iawn o gefnogi prosiect Urdd Gobaith Cymru "#FelMerch"; bydd ganddo ran bwysig i'w chwarae wrth annog cyfranogiad merched mewn gweithgareddau chwaraeon, waeth beth fo'u gallu, ac wrth greu amgylcheddau diogel i wneud hynny."

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Dywedodd Siân Lewis, prif weithredwr Urdd Gobaith Cymru: "Mae cadw'n heini a chymryd rhan mewn chwaraeon yn gwella iechyd meddwl yn ogystal â chorfforol, yn codi hyder a hunan-barch, ac yn medru arwain at gyrhaeddiad addysgol hefyd.

"Felly rydym yn benderfynol o sicrhau fod digon o gyfleoedd gan ferched Cymru i ymwneud â chwaraeon, a hynny o fewn gofod diogel, gan gynnwys darparu sesiynau ymarfer ar-lein sy'n diwallu eu hanghenion."

Ychwanegodd Sarah Powell, prif weithredwr Chwaraeon Cymru: "Mae ehangu apêl gwneud ymarfer corff a chwaraeon i ferched a menywod, yn ogystal â deall y rhwystrau sy'n atal cyfranogiad, yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni.

"Byddwn yn cefnogi ymdrechion yr Urdd i adeiladu ar y cynnydd da a oedd yn cael ei wneud cyn pandemig ac i feddwl yn greadigol wrth ddatblygu cyfleoedd o ansawdd uchel i ferched a menywod eu mwynhau."

Pynciau cysylltiedig