Â鶹ԼÅÄ

Covid-19: Amrywiolyn Delta sy'n fwyaf cyffredin yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Canolfan frechuFfynhonnell y llun, Getty Images

Amrywiolyn Delta o Covid-19, a ddaeth i'r amlwg yn India yn wreiddiol, ydy'r math mwyaf cyffredin mewn achosion newydd o'r coronafeirws yng Nghymru erbyn hyn.

Mae achosion yn ymwneud â'r amrywiolyn wedi cynyddu o 70% mewn pedwar diwrnod ers 10 Mehefin - i 315 - meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf ICC ddydd Llun, mae 247 yn rhagor o achosion positif o Covid-19 wedi'u cofnodi ar draws Cymru.

Mae'r ystadegau a gyhoeddwyd ddydd Llun yn cynnwys cyfnod o 48 awr hyd at 09:00 fore Sul.

Ni chafodd yr un farwolaeth ei chofnodi yn y cyfnod yma.

Wythnos yn ôl, ar 7 Mehefin, dim ond 75 o achosion gafodd eu cofnodi dros 48 awr.

Mae'n golygu bod cyfanswm y marwolaethau ers dechrau'r pandemig, yn ôl dull cofnodi ICC, yn parhau ar 5,572 a nifer yr achosion positif yn 214,004.

Amrywiolyn Delta'n 'bryder'

Mae un o weinidogion y llywodraeth wedi dweud bod disgwyl rhagor o achosion o amrywiolyn Delta dros yr wythnosau nesaf.

Mae clystyrau o'r amrywiolyn wedi eu cofnodi yng ngogledd Cymru - yn siroedd Conwy a Dinbych.

Ond mae achosion wedi eu cofnodi gan y rhan fwyaf o fyrddau iechyd Cymru, sydd ddim yn ymwneud â theithio tramor, meddai ICC.

Yn gyffredinol, mae'r gyfradd achosion dros saith niwrnod ar draws Cymru wedi codi eto - o 15 i 18.4 o bobl fesul 100,000 o'r boblogaeth.

Mae 2,981 yn rhagor o bobl wedi cael brechiad cyntaf, sy'n dod â'r cyfanswm i 2,216,031 - dros 70% o'r boblogaeth.

Mae cyfanswm y bobl sydd wedi cael cwrs llawn bellach yn 1,384,673 (cynnydd o 6,663) sef 44% o boblogaeth Cymru.